Annibynwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Cyfnod yr Adfywio: manion |
→Ymgadarnhau: manion |
||
Llinell 47:
Wrth i nifer yr Annibynwyr gynyddu yn ystod y 19eg ganrif, cynyddodd hefyd eu teimlad o gyfrifoldeb dros y gymdeithas gyfan. Wrth ddod yn ymwybodol o’u nerth cymdeithasol, daethant i sylweddoli y gallent ddylanwadu ar wleidyddiaeth a chyfrannu at lunio byd fyddai’n cyfateb i’w delfrydau.
Daeth y capeli yn lleoedd prysur dros ben wrth i’w gweithgarwch ymestyn i feysydd eraill ym mywyd Cymru. Sefydlwyd cymdeithasau [[llenyddiaeth Gymraeg|llenyddol]] a grwpiau [[Y Ddrama yn Gymraeg|drama]], trefnwyd clybiau cynilo, a chynhaliwyd nosweithiau cymdeithasol a thripiau Ysgol Sul.
Yn y cyfnod hwn hefyd y daeth canu cynulleidfaol i fri, agwedd o addoliad a ddaeth yn nodweddiadol o grefydd Cymru. Cynhaliwyd y [[Cymanfa Ganu|Gymanfa Ganu]] gyntaf yn [[Aberdâr]] ym 1859, a thros y blynyddoedd canlynol bu symlrwydd y Tonic Sol-ffa yn allweddol i’r cynnydd ym mhoblogrwydd y Gymanfa.
Oherwydd iddynt ymddangos yng Nghymru yng nghyfnod y
Carreg filltir bwysig yn neffroad gwleidyddol yr Anghydffurfwyr oedd
Y brif ymgyrch wleidyddol yn y cyfnod hwn oedd honno i ddatgysylltu’r Eglwys Anglicanaidd oddi wrth y wladwriaeth, i’w gwneud yn
Yn ail hanner yn y 19eg ganrif, daeth rhai Annibynwyr i bleidio ‘Annibyniaeth Gyfundrefnol’. Eu gweledigaeth oedd creu ‘enwad’ oedd wedi ei ganoli, er mwyn sicrhau cysondeb ac effeithiolrwydd yng ngwaith yr eglwysi. Adeiladwyd ar drefn y Cyrddau Chwarter trwy ffurfio Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ym 1872.
Nid oedd pawb yn cytuno â’r datblygiadau hyn. Bu’r ymgais i roi rhan amlycach i’r Cyrddau Chwarter yng ngweithgareddau rhyng-eglwysig yr Annibynwyr yn ffactor ym ‘Mrwydr y Ddau Gyfansoddiad’ yng [[Coleg y Bala|Ngholeg y Bala]] – un o’r dadleuon ffyrnicaf a welwyd gan Annibynwyr Cymru.
Er bod yr Anghydffurfwyr yn ail hanner y 19eg ganrif yn fwy dylanwadol nag erioed yng Nghymru, buan yr ymddangosodd sialensiau newydd i’r eglwysi. Yn un peth,
Ymddangosodd sialensiau deallusol hefyd. Bu ymosodiadau ar ysbrydoliaeth ddwyfol a dilysrwydd cyffredinol y [[Beibl]] o gyfeiriad cyfandir Ewrop, a theimlid bod darganfyddiadau ym myd gwyddoniaeth yn tanseilio rhai o gysyniadau sylfaenol Cristnogaeth ynglŷn â Duw fel Creawdwr, effeithiolrwydd gweddi, y gwyrthiau a’r [[Atgyfodiad]].
Nid o’r tu allan y daeth pob bygythiad i’r Annibynwyr yn y cyfnod hwn, er bod y bygythiadau oedd yn gosod gwarchae yn fwy amlwg ar y pryd. Trwy gyfuniad o dueddiadau oes Fictoria ac ymwybyddiaeth o’u statws a’u dylanwad yn y gymdeithas, parchusodd ymddygiad ac ymarweddiad yr Annibynwyr. Yn ogystal â’r gwahaniaethau rhwng ‘capelwyr’ a gweddill y gymdeithas, cododd gwahaniaethau cymdeithasol rhwng gweinidogion a’u cynulleidfaoedd. Yn yr un modd, adeiladwyd capeli moethus a rhoddwyd mwy o bwyslais ar allanolion. Ymhen amser, byddai’r diwylliant capelyddol hwn yn troi’n rhwystr i’r egwyddorion sylfaenol a arddelwyd gan y cenedlaethau oedd wedi gosod y sylfaen i Annibyniaeth yng Nghymru.
Rhai o'i gapeli amlycaf heddiw yw: Ebeneser, [[Rhosmeirch]], Môn
== Ffynonellau ==
|