Athrawiaeth yr arwyddnodau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 1:
{{Cyffuriau | fetchwikidata = ALL }}
Triniaeth feddyginiaethol glasurol yw '''athrawiaeth yr arwyddnodau''' sy'n honni bod pob [[planhigyn]] yn meddu ar ryw nodwedd neu'i gilydd sy'n dynodi pa afiechyd mae'n ei wella (gweler er engraifftenghraifft [[llygad Ebrill]]). Ymhelaethwyd ar yr athrawiaeth yn yr 16g a'r 17g, a'r awdur cyntaf i'w hyrwyddo oedd Theophrastus Bombast von Hohenheim (1493–1541) a adwaenid fel [[Paracelsus]]. Cafodd yr athrawiaeth groeso mawr ym Mhrydain gan awduron megis William Coles, a gyhoeddodd ei ''Art of Simpling'' ym 1656, a'i gyfrol fwy, ''Adam in Eden'', flwyddyn yn ddiweddarach. Fodd bynnag, roedd awduron megis Dodoens (1517-85) wedi gwrthod yr athrawiaeth cyn diwedd yr 16g, ond parhaodd i gael sylw mewn cyhoeddiadau o'r 18g.<ref> Roy Vickery, ''A Dictionary of Plant Lore'' (Rhydychen: Oxford University Press, 1995), tt. 109–10.</ref> Mae'n anodd gwybod i ba raddau y bu erioed yn rhan o gynhysgaeth lafar y werin bobl, ond mae'n ddiddorol nodi i amryw o siaradwyr a fu'n trafod yr anhwylder [[clwy'r marchogion]] er enghraifft gyfeirio at 'dail peils' yn hytrach na 'llygad Ebrill', ac i nifer ohonynt gyfeirio at siâp y gwreiddiau gan eu cymharu â'r lledewigwst, sy'n awgrymu eu bod yn ymwybodol o'r athrawiaeth, ac wedi clywed neu ddarllen amdani. Mae botanegwyr cyfoes yn credu mai ôl-resymoli a geir yma, er eu bod yn cydnabod ei bod yn anorfod y byddai planhigyn megis llygad Ebrill, y defnyddid ei wreiddiau i drin anhwylder tebyg iawn ei olwg, yn cael ei ystyried yn enghraifft amlwg o athrawiaeth yr arwyddnodau<ref>Ann Elizabeth Williams, ''Meddyginiaethau Gwerin Cymru'' (Y Lolfa, 2017).</ref>.
 
== Cyfeiriadau ==