Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 156:
 
Henffych, Llywelyn. Diolch am y sylwadau caredig (dwi'n meddwl!) am fy nhrylwyredd. Ond ar nodyn wahanol, dwi'n sgwennu'r hyn o lith i dynny dy sylw at sefyllfa gwbl annerbyniol ar y wici Saesneg. Mi wn dy fod yn cyfrannu'n achlysurol yn fan 'na hefyd ac felly roeddwn i isio tynnu dy sylw at yr erthygl [[:en:County town|County town]], sy'n trio deud bod Sir Fynwy yn ''rhan o Loegr''. Dwi'n cwffio sawl brwydr dros yr hen wlad yno, ond dyma'r peth mwyaf annifyr eto : cywilydd y peth! Mae fy ngolygiadau yn cael eu gwrthdroi a hynny ar sail dadl hurt am fod dau ddarn o hen ddeddfwriaeth Seisnig yn cyfeirio at y sir fel un o siroedd Lloegr, yn y gorffennol, at bwrpas llywodraeth leol. Mae 'na drafodaeth ar y dudalen Sgwrs am hynny. Tybed, os oes gen ti'r amser, a fedri di bicio drosodd i gael golwg ac efallai i fynegi dy farn hefyd (cyfra i gant cyn dechrau - dan ni ddim isio i bethau fynd yn rhy ymfflamychol)? Ond falle fod gen ti bethau callach i'w wneud. Mae 'na elfennau reit wrth-Gymreig ar "en:" sy wastad yn ceisio rhoi Cymru "yn ei lle" (yn y DU=Prydain=Lloegr!). ON Doeddwn i ddim isio gwneud hyn ar "en:" rhag ofn i rywun gwyno fy mod i'n ceisio stacio'r cardiau. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 22:23, 15 Tachwedd 2008 (UTC)
 
::Gwnaethpwyd fel y gofynaist, megis tarw mewn siop Crochenwaith Abertawe! Cawn weld. 'Gyda'n gilydd fe orchyfygwn nni...' [[Arbennig:Contributions/195.62.202.141|195.62.202.141]] 02:08, 16 Tachwedd 2008 (UTC)