Moel Famau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 10:
 
 
Bryn ar y ffin rhwng [[Sir Ddinbych]] a [[Sir Fflint]] yw '''Moel Famau'''; mae'r ffin rhwng y ddwy sir yn mynd dros y copa. Y bryn yma yw copa uchaf [[Bryniau Clwyd]]. Mae'n ganolbwynt Parc Gwledig Moel Famau.
 
Ar y copa ceir Tŵr y Jiwbili, a adeiladwyd yn [[1818]] i ddathlu jiwbili y brenin [[Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig|Sior III]]. Chwalwyd y rhan uchaf o'r tŵr gan storm fawr yn [[1862]]. Ar ddiwrnod clir gellir gweld [[Ynys Manaw]] a rhan helaeth o ogledd-orllewin Lloegr cyn belled a [[Cumbria]] o'r copa.