Y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 18:44, 17 Tachwedd 2008
Mae'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (Ffrangeg: Comité International Olympique) yn fudiad sydd wedi'i leoli yn Lausanne yn Y Swistir. Crëwyd y Pwyllgor gan Pierre de Coubertin a Demetrios Vikelas ar y 23ain o Fehefin, 1894. Mae aelodaeth y Pwyllgor yn cynnwys y 205 o Bwyllgorau Olympaidd Cenedlaethol.
Mae'r POR yn trefnu'r Gêmau Olympaidd modern a gynhelir yn yr Haf a'r Gaeaf, pob pedair blynedd. Trefnwyd y Gêmau Olympaidd gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol am y tro cyntaf yn Athens, Gwlad Groeg ym 1896; cynhaliwyd Gêmau'r Gaeaf yn Chamonix, Ffrainc ym 1924. Tan 1992 arferai cynnal y Gêmau Haf a Gaeaf yn yr un flwyddyn. Fodd bynnag, ar ôl y flwyddyn honno, symudodd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol Gêmau'r Gaeaf fel eu bod yn disgyn rhwng y Gêmau Haf, er mwyn cynorthwyo gyda'r trefniadau o gynnal dau ddigwyddiad dwy flynedd ar wahan i'w gilydd.