Chamonix: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 19:20, 17 Tachwedd 2008
Mae Chamonix-Mont-Blanc, neu Chamonix fel y caiff ei adnabod gan amlaf, (ynganer [ʃamɔni] yn Ffrangeg) yn dref yn nwyrain Ffrainc, yn ardal Haute-Savoie, wrth droed Mont Blanc. Yng nghyfrifiad 1999, roedd gan y dref boblogaeth o 9,830 o drigolion ac arwynebedd o 116.53 km² (44.99 sq mi). Saif y dref ar uchder o 1,035 metr. Cynhaliwyd Gêmau Olympaidd y Gaeaf yno ym 1924.