Bologna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 3:
Dinas yng ngogledd [[yr Eidal]] yw '''Bologna''' ([[Lladin]] ''Bononia''). Hi yw prifddinas talaith [[Emilia-Romagna]], rhwng [[Afon Po]] a mynyddoedd yr [[Appenninau]].
 
Sefydlwyd y ddinas gan yr [[Etrwsciaid]] fel ''Felsina'' oddeutu'r flwyddyn [[534 CC]]. Yn y bedwaredd ganrif4g CC, concrwyd y ddinas gan lwyth [[Y Celtiaid|Celtaidd]] y [[Boii]], a chafodd yr enw ''Bononia''. Daeth yn ''colonia'' Rhufeinig tua [[189 CC]], ac ychwanegwyd at bwysigrwydd y ddinas pan adeiladwyd y [[Via Aemilia]] yn [[187 CC]]. Daeth yn ''municipium'' yn [[88 CC]], ac am gyfnod fe'i hystyrid yn ail ddinas yr Eidal.
 
Yn [[728]], cipiwyd y ddinas gan [[Liutprand, brenin y Lombardiaid|Liutprand]], brenin y [[Lombardiaid]]. Yn [[1088]], sefydlwyd Prifysgol Bologna, ''Alma Mater Studiorum'', y brifysgol hynaf yn y byd gorllewinol.