Brwydr Maes Maidog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 2:
 
==Hanes==
Yr oeddRoedd byddin Madog ar ei ffordd i lawr i [[Powys|Bowys]], naill ai i ymosod ar y Saeson ar y Gororau neu i geisio ymuno â'r gwrthryfelwyr eraill dan [[Cynan ap Maredudd]] yn y Canolbarth a [[Maelgwn ap Rhys]] yn y De, pan gafodd ei ddal yn annisgwyl gan luoedd Warwig ym Maes Meidiog, ger [[Llanfair Caereinion]]. Trechwyd Madog a'i ddilynwyr yn llwyr a dyna ddiwedd ar [[Gwrthryfel Cymreig 1294-95|y gwrthryfel]] i bob pwrpas.
 
Wedi clywed fod byddin Madog yn gorwedd mewn cwm o fewn cyrraedd i'w gastell yn [[Y Trallwng]], ymdeithiodd Iarll Warwig a'i filwyr trwy'r nos o 4 Mawrth a llwyddasant i amgylchynu'r Cymry. Trefnodd Madog ei wŷr gwaywffon mewn sgwâr amddiffynnol a llwyddodd i wrthsefyll cyrch gan farchoglu'r Saeson a'u gyrru yn eu holau. Ond defnydiodd Warwig y saethwyr [[bwa]] a [[bwa croes]] yn ei lu yn ddeheuig. Lladdwyd nifer o'r Cymry ond llwyddodd Madog a gweddill y fyddin i ddianc trwy rydio [[afon Banwy]]. Bu ymladd pellach mewn lle y cyfeirir ato yn y cofnodion Seisnig fel 'Thesseweit' (lleoliad anhysbys) a chollwyd cyflenwadau byddin Madog. Yn ôl y cofnodion Seisnig, lladdwyd tua chant o Saeson ond tua saith cant o Gymry. Gan nad oes tystiolaeth o'r ochr Gymreig mae'n bosibl bod nifer y colledion Cymreig wedi ei chwyddo, ond cafodd y frwydr effaith ar y gwrthryfel a ddirwynodd yn araf i ben. Ffoes Madog ond cafodd ei ddal gan y Saeson yng Ngorffennaf yn yr un flwyddyn.