Cadwaladr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 15fed ganrif15g, [[File: → [[Delwedd: using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Hanes: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 6:
 
==Hanes==
Yr oeddRoedd Cadwaladr yn blentyn pan laddwyd ei dad, [[Cadwallon ap Cadfan]], mewn brwydr yn erbyn Oswald o [[Northumbria]]. Cipiwyd teyrnas Gwynedd gan [[Cadafael Cadomedd ap Cynfeddw]], a bu raid i Gadwaladr ffoi. Credir iddo fyw yn [[Iwerddon]], [[Llydaw]] neu un o'r teyrnasoedd Brythonig eraill. Llwyddodd Cadwallon i adennill teyrnas ei dad, ond nid oes gwybodaeth am sut y gwnaeth hyn. Erbyn [[658]] yr oedd yn ddigon grymus i ymosod ar y Saeson yng [[Gwlad yr Haf|Ngwlad yr Haf]], ond heb lwyddiant.
 
Wedi hyn, nid yw'n ymddangos i Gadwaladr arwain byddinoedd tu allan i Wynedd. Yr oeddRoedd enw iddo am fod yn frenin duwiol dros ben, a chafodd yr enw "Cadwaladr Fendigaid". Sefydlodd nifer o eglwysi yng Ngwynedd, a chredir mai ef yw'r "Cadwaladr" sy'n cael ei goffau yn enw eglwys Llangadwaladr ar [[Ynys Môn]], lle gellir gweld carreg fedd ei daid, [[Cadfan ap Iago]].
 
Yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]'', bu farw o'r pla yn [[682]]. Mae rhai ffynonellau'n awgrymu iddo farw mewn pla cynharach yn [[663]]/[[664]], ond ymddengys hyn yn llai tebygol.