Caer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Hanes: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 8:
Mae'r ddinas wedi tyfu o gwmpas safle'r hen gaer Rufeinig [[Deva]]. Roedd hi'n ganolfan bwysig i lengfilwyr Rhufain, a dangosir hyn yn yr hen enw ar y dre - 'Caerllïon Fawr' - a oedd yn gartref am gyfnod hir i'r lleng [[Legio XX Valeria Victrix]]. Mae rhai yn credu, oni bai am ddirywiad a chwymp yr [[ymerodraeth Rufeinig]], y gallai Caer fynd yn brifddinas y Brydain Rufeinig ac yn ganolfan i'r Rhufeiniaid fentro dros y môr i [[Iwerddon]].
 
Ar ôl ymadawiad byddinoedd Rhufain, mae'n debyg i Gaer ddod yn rhan o [[Teyrnas Powys|deyrnas Powys]], ond 'roedd yr [[Eingl-Sacsoniaid]] yn dod yn nes. Ymladdwyd [[Brwydr Caer]] tua'r flwyddyn [[615]] rhwng lluoedd y [[Brythoniaid]] a lluoedd Æthelfrith, brenin [[Deira]] (wedyn [[Northumbria]]). Aeth y fuddugoliaeth i'r Saeson, ac o hynny ymlaen hwy oedd yn oruchaf yn yr ardal.
 
Cipiwyd Caer gan y [[Normaniaid]] yn yr [[11g]] a chreuwyd [[Iarllaeth Caer]] ganddynt, un o'r bwysicaf o arglwyddiaethau Normanaidd [[y Mers]]. Treuliodd [[Gruffudd ap Cynan]], brenin [[teyrnas Gwynedd]], gyfnod o rai blynyddoedd mewn carchar yn y castell Normanaidd. Ymwelodd [[Gerallt Gymro]] â Chaer ar ddiwedd ei [[Hanes y Daith Trwy Gymru|daith trwy Gymru]] yn [[1188]].