Carinus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dyddiadauy
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 5:
Carinus oedd mab hynaf yr ymerawdwr [[Carus]], a gwnaeth ei dad ef yn llywodraethwr y rhan orllewinol o’r [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodraeth Rufeinig]]. Ymladdodd yn llwyddiannus yn erbyn y llwythi [[Germaniaid|Almaenaidd]] oedd yn bygwth croesi [[Afon Rhein]], ond yn fuan gadawodd yr ymgyrch i eraill a dychwelodd i Rufain, lle dywedir iddo fyw yn afradlon ac yn ofer. Dywedir iddo briodi naw o weithiau, gan wenwyno’r wraig flaenorol bob tro.
 
Wedi marwolaeth ei dad, daeth ef a’i frawd [[Numerian]] yn gyd-ymerodron. Yr oeddRoedd y milwyr oedd yn gwasanaethu yn y dwyrain dan Numerian yn mynnu cael dychwelyd i Ewrop, a llofruddiwyd Numerian yn [[Calcedonia]]. Cyhoeddodd y milwyr [[Diocletian]] yn ymerawdwr..
 
Gadawodd Carinus Rufain a theithiodd tua’r dwyrain gyda’i fyddin. Llwyddodd o orchfygu ymgeisydd arall am yr ymerodraeth, [[Marcus Aurelius Julianus]], yna bu’n ymladd a milwyr Diocletian yn [[Moesia]]. Enillodd nifer o fuddugoliaethau, ond yna llofruddiwyd Carinus gan [[Tribwn|dribwn]] . Ymddengys fod Carinus wedi dechrau perthynas a gwraig y tribwn ar yr un diwrnod yr oedd ei gŵr wedi ennill buddugoliaeth iddo dros Diocletian yn Margus (Morava). Fodd bynnag mae rhai ffynonellau yn dweud mai Diocletian fu’n fuddugol yn Margas.