Castell Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up, replaced: 13eg ganrif → 13g (2) using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Y ffug gastell: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 8:
 
==Y ffug gastell==
Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg19g, ychydig iawn oedd ar ôl o'r bensaernïaeth Normanaidd. Gorchmynodd Trydydd Ardalydd Bute, John Crichton-Stuart, i'r safle gael ei glirio o falurion a llysdyfiant ym 1871. Lluniodd ei bensaer [[William Burges]] gynlluniau ar gyfer ail-godi'r castell. Roedd Burges a'r Ardalydd eisioes wedi bod gweithio ar ailgodi [[Castell Caerdydd]] ers tair blynedd, a'r bwriad oedd codi Castell Coch yn yr un arddull o'r 13g, sef arddull yr Adfywiad Gothig.
 
Mae set o luniadau ar gyfer yr ail-godi yn dal i fodoli, ynghyd â chyfiawnhad pensaerniol llawn gan Burges. Mae'n amheus iawn y bu gan y castell hanesyddol y toeau conigol nodweddiadol sy'dd i'w gweld ar yr adeilad presennol. Roedd Burges eisiau'r toeau rhain ar gyfer eu effaith gweledol, gan gyfaddef eu bod yn "gwbl ddychmygol" ond yn "fwy darluniadaidd" ac yn "cynnig mwy o le".