Llithfaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
pwt o hanes am y gwerthwyr grug
llun
Llinell 1:
Mae '''Llithfaen''' yn bentref ar arfordir gogleddol [[penrhyn Llŷn]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]]. Saif ger llechweddau deheuol [[Yr Eifl]] ar y ffordd B4417 o [[Llanaelhaearn|Lanaelhaearn]] i [[Nefyn]].
 
[[Delwedd:Llithfaen o Bistyll.jpg|250px|bawd|Golygfa ar Lithfaen o gyfeiriad Pistyll]]
Tyfodd y boblogaeth pan agorwyd nifer o chwareli [[gwenithfaen]] ar yr Eifl yn y [[19eg ganrif]]. Adeiladwyd llawrllawer o dai newydd ac mae cyfrifiad [[1881]] yn dangos nifer fawr o fewnfudwyr o ardaloedd eraill yn Llŷn ei hun, o [[Penmaenmawr|Benmaenmawr]] a chyn belled â'r [[Alban]]. Yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, cyn agor chwareli llithfaen lleol fel yr un yn [[Nant Gwrtheyrn]], arferai nifer o dyddynwyr y plwyf ychwanegu at eu hincwm trwy dorri [[grug]] ar lethrau [[Tre'r Ceiri]] a'i gludo ar eu cefnau yn feichiau mawr i'w werthu fel tanwydd ym marchnad [[Pwllheli]] am 6 cheiniog y baich.<ref>D. T. Davies (gol.), ''Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn'' (Pwllheli, 1910).</ref>
 
Mae yno siop sydd yn gael ei rhedeg gan y gymuned a Tafarn Y Fic, sydd hefyd yn cael ei rhedeg gan gwmni cydweithredol.