Thomas Stephens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
B Mân bethau
Llinell 14:
 
==Bywgraffiad==
Ganed ef ym [[Pont Nedd Fechan|Mhont Nedd Fechan]], [[Morgannwg]] (de [[Powys]] heddiw), yn fab i grydd. Dim ond tua tair blynedd o addysg ffurfiol a gafodd, cyn mynd yn brentis i fferyllydd yn nhref [[Merthyr Tydfil]] yn [[1835]]. Yn ddiweddarach daeth yyn berchen ar y siop fferyllydd ac yn ŵr amlwg ym mywyd y dref; ef oedd prif sylfaenydd Llyfrgell Merthyr.
 
Daeth yn amlwg fel eisteddfodwr, ac yn Eisteddfod y Fenni yn [[1848]] enillodd wobr am draethawd ar lenyddiaeth Cymru yng nghyfnod [[y Gogynfeirdd]]. Hwn oedd sail ei lyfr diweddarch, ''The Literature of the Kymry''. Yn [[Eisteddfod Fawr Llangollen]] yn [[1858]], collodd y wobr am draethawd ar ddarganfyddiad America gan [[Madog]] am fod ei draethawd ef yn casglu nad oedd gwir yn y chwedl; cyhoeddwyd hwn yn ddiweddarch.