20th Century Fox: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Mae Twentieth Century Fox Film Corporation (sillafwyd fel Twentieth Century-Fox Film Corporation o 1935 tan 1985), sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 20th Century Fox, Fox 200...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:32, 19 Tachwedd 2008

Mae Twentieth Century Fox Film Corporation (sillafwyd fel Twentieth Century-Fox Film Corporation o 1935 tan 1985), sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 20th Century Fox, Fox 2000 Pictures, neu Fox ar ei ben ei hun, yn un o chwech prif stiwdio ffilmiau Americanaidd. Lleolir y cwmni yn ardal Century City o Los Angeles, i'r gorllewin o Beverly Hills ac mae'n is-gwmni i News Corporation, cydglyniad cyfryngol a reolir gan Rupert Murdoch. Sefydlwyd y cwmni ym 1935 wrth i ddau gwmni sef Fox Film Corporation (a sefydlwyd gan William Fox ym 1915) a Twentieth Century Pictures (a ddechreuwyd gan Darryl F. Zanuck, Joseph Schenck, Raymond Griffith a William Goetz ym 1933 gyfuno. Mae rhai o ffilmiau enwocaf 20th Century Fox yn cynnwys y cyfresi Star Wars, The Rocky Horror Picture Show, Home Alone, Die Hard, Revenge of the Nerds, Alien a Predator.