Rhys ap Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 38:
 
==Wedi Bosworth==
Yn ogystal a'i wneud yn Farchod anrhydeddwyd Rhys gan nifer o swyddi gan gynnwys ei wneud yn Rheolwr Cymru, yn Gyfrin Gynghorwr ac yn 1505 yn Farchog y Gardas Aur a chafwyd dathliadau enfawr yng [[Castell Caeriw|Nghastell Caeriw]]. Yn dilyn marwolaeth Harri'r VII bu Rhys yn driw i'w fab gan ymladd gydag ef ym mrwydr Guinegatte yn 1513.
 
Priododd ddwywaith: Efa oedd ei wraig gyntaf, merch Henri ap Gwilym o Gwrt Henri; ac eilwaith i Sioned (Janet), merch Thomas Mathew o Radyr, sef gweddw Thomas Stradling o [[Sain Dunwyd]]. Bu farw ei fab [[Gruffydd ap Rhys ap Thomas]] yn 1521 a bu farw Rhys ei hun bedair blynedd wedi hynny, yn 1525 ym Mhriordy Caerfyrddin. Wedi dymchwel y briordy ar orchymyn gan Harri VIII, symudwyd ei gorff i gistfaen yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin.