Cerddoleg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Hanes: clean up, replaced: yn y 18fed ganrif → yn y 18g using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 42:
Cychwynodd ymchwil hanesyddol ym maes cerddoriaeth yn y 18g. Ymhlith y gweithiau cynnar mae hanesion yr Eidalwr G. B. Martini (''Storia della musica''; 1757–81), yr Almaenwr Martin Gerbert (''De cantu et musica sacra''; 1774), a'r Saeson Charles Burney (''General History of Music''; 1776–89) a J. Hawkins (''General History of the Science and Practice of Music''; 1776). Yn y 19eg ganrif cynyddodd diddordeb yng ngherddoriaeth hynafol a chanoloesol, ac ymdrechodd ysgolheigion i ddeall yr hen ffurfiau o nodi cerddoriaeth. Llwyddodd y Belgiad François Joseph Fétis (1784–1871) a'r Awstriad August Wilhelm Ambros (1816–76) i lunio hanesion cynhwysfawr o ddatblygiad cerddoriaeth Ewropeaidd, gan gynnwys trawsgrifiadau o gyfansoddiadau o'r Oesoedd Canol a'r Dadeni. Ymddiddorodd [[Samuel Wesley]], [[Felix Mendelssohn]] ac eraill yng ngweithiau'r cyfansoddwyr cynt, a gwnaed rhagor o ymchwil i'r hen nodiant gan Johannes Wolf.<ref name=EB/> Bathwyd yr enw Almaeneg ''Musikwissenschaft'' gan yr athro cerdd J. B. Logier ym 1827.<ref name=Oxf/> Yn ei lyfr ''Jahrbücher für musikalischer Wissenschaft'' (1863), defnyddiodd F. Chrysander y gair hwnnw wrth ddadlau dros astudio gwyddor cerdd a gosod sylfaen a safonau methodolegol iddi.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/topic/musicology |teitl=musicology |dyddiadcyrchiad=23 Ionawr 2017 }}</ref> Ymledodd yr enw ar draws Ewrop a chafodd yr astudiaethau hanesyddol eu mabwysiadu gan y maes newydd.
 
Sefydlwyd y Gymdeithas Gerddoriaeth Frenhinol ym Mhrydain ym 1874, a'r Gymdeithas Gerddoleg Americanaidd ym 1934. Pwrpas y Gymdeithas Gerddoriaeth Ryngwladol (1900–14) oedd i hybu astudiaeth cerddoleg, a pharháodd dan ei olynydd y ''Société Internationale de Musicologie'' a sefydlwyd ym 1928.<ref name=Oxf>{{eicon en}} "[http://www.encyclopedia.com/literature-and-arts/performing-arts/music-theory-forms-and-instruments/musicology#1O76musicology musicology]" yn ''The Concise Oxford Dictionary of Music'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1996). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 23 Ionawr 2017.</ref> Cafwyd dylanwad ar gerddoleg gan seicoleg ac ethnoleg, a daeth [[bywgraffiad]] yn agwedd bwysig o'r maes.<ref name=EB/> Ymchwiliodd cerddolegwyr yn ddyfnach i'r gerddoriaeth gynharaf. Ers canol yr 20fed ganrif20g, mae cerddoleg yn bwnc mewn nifer o brifysgolion a cheir sawl [[cyfnodolyn academaidd|cyfnodolyn]] sy'n ymdrin ag agweddau arbenigol y maes.
 
== Cyfeiriadau ==