Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Charles de Gaulle"

Lleihawyd o 1 beit ,  2 flynedd yn ôl
B
Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
B (→‎Ffynonellau: clean up)
B (Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB)
 
== Y cyfnod ôl-ryfel ==
Ym [[1947]] sefydlodd y ''[[Rassemblement du Peuple Français]]'' ond nid oedd yn llwyddianusllwyddiannus iawn ac fe'i diddymwyd ganddo ym [[1953]]. Ymddeolodd o wleidyddiaeth am gyfnod.
 
== Arlywydd y Bumed Weriniaeth ==
Deuddeng mlynedd wedi iddo ymddiswyddo o arwain [[Llywodraeth Ddros Dro Ffrainc]], dychwelodd Charles de Gaulle i arwain ei wlad ar ôl [[argyfwng Mai 1958]], a achoswyd gan analluogrwydd [[Trydedd Weriniaeth Ffrainc|y Drydedd Weriniaeth]] i ddatrys [[Rhyfel Algeria]] a ddechreuodd ym 1954. Croesawyd dychweliad de Gaulle gan [[Byddin Ffrainc|Fyddin Ffrainc]] a'r ''[[pied-noir|pieds-noirs]]'', setlwyr Ewropeaidd Algeria, oedd yn disgwyl iddo rhoi ei gefnogaeth dros achos [[Algeria Ffrengig]]. Ar 4 Mehefin 1958 ymwelodd yr arlywydd newydd ag Algeria ac fe'i groesawyd fel achubwr, gan ymddangos o flaen torfeydd gorawenus a datgan "''Je vous ai compris!''" ("Yr wyf wedi eich deall!").
 
Ond yn fuan cafodd y fyddin a'r ''pieds-noirs'' eu dadrithio gan eu harweinydd newydd. Dod â therfyn i'r rhyfel oedd blaenoriaeth de Gaulle yn ystod pedair mlynedd gyntaf ei arlywyddiaeth, ac wynebodd cyfyngiadau sylweddol o bob ochr wrth geisio cyflawni'r dasg hon. Yr oeddRoedd gorchfygiad [[Brwydr Dien Bien Phu]] yn ffres yng nghof Byddin Ffrainc, ond nid oedd cadfridogion nac milwyr y rhengoedd isaf yn dymuno cilio rhag trefedigaeth Ffrengig eto. Roedd y ''pieds-noirs'' yn dymuno cadw eu statws breintiedig yn Algeria dros y boblogaeth frodorol. Yn ogystal roedd nifer o gefnogwyr gwleidyddol de Gaulle, megis [[Michel Debré]], Prif Weinidog rhwng 1959 a 1962, o blaid gadw Algeria yn rhan o Ffrainc. Ac agwedd y [[Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol (Algeria)|Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol]] (FLN) oedd i barháu i ryfela nes yr oedd annibyniaeth i weriniaeth Algeriaidd brodorol.
 
Er mwyn trechu'r cyfyngiadau hyn, defnyddiodd de Gaulle nid yn unig ei rymoedd arlywyddol ond hefydd ei fri, dylanwad, a chymeriad personol.<ref>Shennan (1993), t. 93.</ref> Gwnaeth defnydd o rethreg wladgarol ar deledu. Ar 16 Medi 1959, darlledwyd araith gan de Gaulle o [[Palas Élysée|Balas Élysée]]. Ynddi, addawodd yr arlywydd i sicrháu [[hunan-benderfyniad]] ar gyfer holl boblogaeth Algeria o fewn pedair mlynedd i gadoediad gan bob ochr yn y gwrthdaro. Rhestrodd tri dewis am ddyfodol Algeria: [[annibyniaeth]] ("ymwahaniad"), integreiddiad ("Ffranceiddio"), ac "uniad agos â Ffrainc". Ffafriodd de Gaulle y drydydd dewis, a gyda'r araith hon fe siapiodd y ddadl dros ddyfodol Algeria. Llwyddodd i greu tir canol rhwng dymuniadau'r setlwyr dros integreiddio a dymuniadau'r brodorion dros annibyniaeth.
57,123

golygiad