Claudius II: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 3:
Mae'n aneglur ymhle y ganed Claudius, efallai Sirmium (yn [[Pannonia]] Inferior) neu Dardania (yn [[Moesia]] Superior). Yn 268 yr oedd yr ymerodraeth mewn perygl o sawl tu, yn enwedig yn [[Iliricum]] a [[Pannonia]] lle roedd y [[Gothiaid]] yn ymosod. Enillodd Claudius un o fuddugliaethau pwysicaf y fyddin Rufeinig. Ym mrwydr [[Naissus]] gorchfygodd Claudius a'i lengoedd fyddin fawr y Gothiaid, gyda chymorth cadfridog arall, [[Aurelian]], a ddaeth yn ymerawdwr ei hun yn ddiweddarach. Taflwyd y Gothiaid yn ôl tros [[Afon Donaw]] a bu tros ganrif cyn iddynt fod yn berygl i'r ymerodraeth eto. Ychydig cyn hynny yr oedd wedi gorchfygu'r [[Alemanni]] oedd wedi croesi'r [[Alpau]] i ymosod ar yr ymerodraeth.
 
Daeth yn ymerawdwr ym mis Medi yr un flwyddyn. Yr oeddRoedd sibrydion ei fod a rhan yn y cynllwyn a arweiniodd at lofruddiaeth yr ymerawdwr blaenorol, [[Gallienus]], ond nid oes prawf o hyn. Beth bynnag am hynny, gofynnodd i'r [[Senedd Rhufain|Senedd]] roi pardwn i deuluoedd dilynwyr Gallienus. Bu'n ymgyrchu yn erbyn "Ymerodraeth y Galiaid", oedd ers 15 mlynedd wedi meddiannu [[Gâl]], rhan o Brydain a Hispania. Enillodd nifer o fuddugoliaethau ac adenillodd Hispania i'r ymerodraeth, gan osod y seiliau ar gyfer buddugoliaeth derfynol dros Ymerodraeth y Galiaid dan Aurelian.
 
Tua diwedd [[269]] yr oedd Claudius yn paratoi i ymgyrchu yn erbyn y [[Vandaliaid]] oedd yn ymosod ar Pannonia, ond bu farw o glefyd yn Ionawr 270. Cyn marw, enwodd [[Aurelian]] fel ei olynydd, ond llwyddodd ei frawd [[Quintillus]] i gipio'r orsedd yn fuan ar ôl marw Claudius. Cyhoeddodd y Senedd ef yn dduw fel ''Divus Claudius Gothicus''.