Coleg y Bala: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 2:
 
==Hanes==
Codwyd yr adeilad fel Coleg Hyfforddi enwad y [[Methodistiaid Calfinaidd]] ar gyfer y weinidogaeth. Bu drwy lawer o gyfnewidiadau yn ei hanes, ac erbyn diwedd ei gyfnod fel coleg hyfforddi, yr oedd y flwyddyn baratoad ymarferol ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig yn cael ei gynnig yno tra 'roedd y rhan fwyaf o'r cwrs hyfforddi diwinyddol yn cael ei gynnig yn y [[Coleg Diwinyddol Unedig]] yn Aberystwyth. (Nid oes unrhyw gysylltiad rhyngddo â [[Coleg Bala-Bangor|Choleg Bala-Bangor]]).
 
Wedi aros yn segur am rhai blynyddoedd, pryd y cafodd y llyfrgell eang oedd yno ei dosbarthu a'i rhannu, fe gafwyd gweledigaeth i droi yr adeilad yn ganolfan gwaith ieuenctid. Bu'r Parch. Dafydd Owen yn gyfrifol am sefydlu'r gwaith hwn ym 1968. Ei weledigaeth oedd gweld canolfan gyd-enwadol a fyddai'n annog ac yn cynnig hyfforddiant yn eu ffydd i ieuenctid yng Nghymru. Er na welwyd yr enwadau Cymreig eraill yn rhoi eu cefnogaeth i'r ganolfan, fe dyfodd y gwaith a ffrwytho yn helaeth o dan arweiniad nifer o Swyddogion Ieuenctid dros y blynyddoedd. Yn fuan iawn, o dan arweiniad Miss Gwen Rees Roberts (ar ôl ei dychweliad hi o'r maes cenhadol ym [[Mizoram]], [[India]] fe ddaeth y gwaith i gynnwys gweithio ymhlith plant hefyd.