Cristnogaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) B →Ymneilltuaeth a thwf y capeli: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB |
||
Llinell 46:
Ar droad y 19eg ganrif, dechreuodd yr Ysgol Sul ennill poblogrwydd. O fewn cenhedlaeth, daeth pob eglwys i drefnu Ysgol Sul, a daeth yn sefydliad dylanwadol. Trodd y werin Gymreig yn werin lafar; galluogwyd hi i fynegi ei meddwl yn glir a huawdl. Ymhen rhai blynyddoedd, daethpwyd i weld arwyddocâd hynny ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol Cymru. Cynhyrchwyd corff enfawr o lenyddiaeth ar gyfer y werin lythrennog hon, ac ymddangosodd llu o gyfnodolion misol, rhai’n enwadol ac eraill yn gydenwadol. Bu hwn hefyd yn gyfnod o genhadu dros y môr. Bu’r Cymry yn arbennig o gefnogol i waith Cymdeithas Genhadol Llundain a sefydlwyd ym 1795, ac y mae cysylltiadau gyda Madagasgar, un o feysydd cenhadol cyntaf y Cymry, yn parhau hyd heddiw.
Wrth i’r Ymneulltuwyr gynyddu eu gwaith cenhadol, cafwyd datblygiad yn eu diwinyddiaeth. Ers yr
O ganol yr holl ddiwinydda ar droad y 19eg ganrif, ymddangosodd llwybr canol ar ffurf ‘Calfinyddiaeth Fodern’, neu ‘Sustem Newydd’, Edward Williams o Rotherham. Yn fab i Galfinydd a Weslead, dadleuai Williams fod yr Iawn a dalodd Crist ar y Groes yn ddigonol i bawb ond yn effeithiol i nifer neilltuol. Ar y naill law, dadleuai bod cyfrifoldeb ar bob unigolyn i ymateb i’r Efengyl, ond, ar y llaw arall credai mai Duw yn unig oedd yn haeddu’r clod am yr achubiaeth. Bu Edward Williams yn ddylanwad ar do ifanc o weinidogion yng Nghymru, ac yn eu plith yr oedd John Roberts o Lanbrynmair, David Davies o Bant-teg a Michael Jones o Lanuwchllyn. Erbyn canol y 19eg ganrif, ‘Sustem Newydd’ Edward Williams oedd y prif safbwynt diwinyddol ymhlith Annibynwyr Cymru.
Fodd bynnag, y newid mwyaf amlwg a welwyd yn hanner cyntaf y 19eg ganrif oedd y cynnydd aruthrol yn nifer yr eglwysi ledled Cymru. Rhwng 1800 a 1850, amcangyfrifir bod achos newydd wedi ei sefydlu yng Nghymru, ar gyfartaledd, bob pum wythnos. Yn 1775 yr oedd tua 100 o eglwysi Annibynnol yng Nghymru; erbyn 1851, yr oedd 684 ohonynt. Cafwyd cynnydd ar raddfa debyg yn y weinidogaeth, o 46 gweinidog ym 1800, i 319 ym 1851. Gwelwyd cynnydd tebyg ymysg y Methodistiaid Calfinaidd a’r Bedyddwyr. Ni ddylid rhoi’r argraff bod hwn yn gynnydd cyson. Trwy gydol y 19eg ganrif, bu cyfres o ddiwygiadau crefyddol, pob un gyda’i gylch a’i ddylanwad ei hun.
Wrth i nifer yr Ymneulltuwyr gynyddu yn ystod y 19eg ganrif, cynyddodd hefyd eu teimlad o gyfrifoldeb dros y gymdeithas gyfan. Wrth ddod yn ymwybodol o’u nerth cymdeithasol, daethant i sylweddoli y gallent ddylanwadu ar wleidyddiaeth a chyfrannu at lunio byd fyddai’n cyfateb i’w delfrydau. Daeth y capeli yn lleoedd prysur dros ben wrth i’w gweithgarwch ymestyn i feysydd eraill ym mywyd Cymru. Sefydlwyd cymdeithasau llenyddol a grwpiau drama, trefnwyd clybiau cynilo, a chynhaliwyd nosweithiau cymdeithasol a thripiau Ysgol Sul. Yn y cyfnod hwn hefyd y daeth canu cynulleidfaol i fri, agwedd o addoliad a ddaeth yn nodweddiadol o grefydd Cymru. Cynhaliwyd y Gymanfa Ganu gyntaf yn Aberdâr ym 1859, a thros y blynyddoedd canlynol bu symlrwydd y Tonic Sol-ffa yn allweddol i’r cynnydd ym mhoblogrwydd y Gymanfa.
|