Cymdeithas Genhadol Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
|||
Llinell 6:
Cynigiwyd sefydlu'r Gymdeithas Genhadol yn 1794 wedi i weinidog gyda'r Bedyddwyr, [[John Ryland]], dderbyn gair gan [[William Carey]], y cenhadwr o Fedyddiwr a oedd wedi ymfudo i Calcutta, ynghylch yr angen i ledaenu [[Cristnogaeth]]. Awgrymodd Carey bod Ryland yn cydweithio gydag unigolion o enwadau eraill yn yr un modd ag yr oedd y Gymdeithas Wrth-gaethwasiaeth wedi gweithio er mwyn goresgyn yr anawsterau a wynebwyd wrth geisio sefydlu meysydd cenhadol mewn gwledydd eraill. Bu enwadaeth yn rhwystr i godi arian i sefydlu cenhadaeth gynaliadwy, er enghraifft.
Ceisiai'r Gymdeithas greu fforwm ble gallai efengylwyr o wahanol enwadau weithio gyda'i gilydd a rhoi cefnogaeth ariannol i genhadaeth dramor.
Yn 1795, gofynnwyd i Spa Fields Chapel am ganiatad i gynnal oedfa bregethu yno i weinidogion ac eraill a oedd yn gefnogol i'r bwriad o anfon cenhadon tramor. Daeth cannoedd yno ar 22 Medi i sefydlu'r Gymdeithas Genhadol a buan y dechreuodd dderbyn llythyrau yn rhoi cefnogaeth ariannol neu gyflwyno ymgeiswyr ar gyfer y gwaith cenhadol.
|