Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sodacan (sgwrs | cyfraniadau)
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 89:
Roedd gweddill y [[15g]] yn bur ansefydlog hefyd. Ochrai'r rhan fwyaf o'r Cymry â phlaid y [[Lancastriaid]] yn ystod [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]]. Uchafbwynt y rhyfeloedd hynny oedd buddugoliaeth [[Harri VII o Loegr|Harri Tudur]] ym [[Brwydr Bosworth|Mrwydr Bosworth]] yn [[1485]]; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w gefnogi pan laniodd yn Sir Benfro, trechodd Harri'r brenin [[Rhisiart III o Loegr|Rhisiart III]] a chipiodd goron Lloegr gan gychwyn [[Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru|cyfnod y Tuduriaid]].
 
Yn ystod teyrnasiad [[Harri VIII o Loegr]], ychwanegwyd chwe sir newydd at y rhai a fodolai eisoes ar diriogaeth yr hen Dywysogaeth gan [[Deddf Uno 1536|Ddeddf Uno 1536]] trwy roi statws sirol i arglwyddiaethau [[Sir Benfro|Penfro]] a [[Sir Forgannwg|Morgannwg]] a chreu pedair sir newydd, sef [[Sir Frycheiniog|Brycheiniog]], [[Sir Faesyfed|Maesyfed]], [[Sir Drefaldwyn|Trefaldwyn]] a [[Sir Ddinbych|Dinbych]], a gwnaethpwyd deddfau Lloegr yn ddeddfau gwlad yng Nghymru. Yng [[Gwent|Ngwent]], crëwyd sir newydd [[Sir Fynwy|Mynwy]] yn y de-ddwyrain ond rhoddwyd y sir yn rhan o gylchdaith llysoedd San Steffan ac felly cafwyd yr ymadrodd cyfreithiol "Cymru a Sir Fynwy", anomaledd a barhaodd hyd yr 20fed ganrif20g er na fu'r sir newydd yn rhan o Loegr fel y cyfryw.
 
Mae aelodau'r [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]], a grëwyd ym 1998 ac sy'n cyfarfod yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], yn cael eu hethol gan y Cymry. Tywysog Cymru yw'r teitl y mae brenin neu frenhines Prydain yn arfer rhoi i'w mab hynaf (ond nid yn ddieithriad), ond nid yw'r tywysog ei hun yn byw yng Nghymru nac yn cymryd rhan yn ei llywodraeth. Y Tywysog Siarl yw'r Tywysog Cymru Seisnig cyntaf i fedru siarad tipyn bach o [[Gymraeg]].
Llinell 112:
== Demograffeg ==
{{prif|Demograffeg Cymru}}
Yn ôl [[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011|Cyfrifiad 2011]] yr oedd 3,063,456 o bobl yn byw yng [[Cymru|Nghymru]], sy'n rhoi dwysedd o 147.4/km².
 
== Diwylliant ==