Merch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B term y gogledd, hogan, egluro cyd-destun
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B dileu teipo - cronfachau dwbl
Llinell 9:
Ceir yn ogystal y term "hen ferch" i ddynodi dynes ddibriod mewn oed (cf. "hen lanc") a 'merch weddw' i ddynodi merch sydd wedi colli ei gŵr.
 
Yn draddodiadol, fe'i defnyddiwyd i ddangos perthynas y person i'w thad neu ei mam fel ag a weir heddiw gyda 'ap' (Huw ap Dafydd) e.e. roedd Cymeriad poblogaidd iawn o'r enw 'Marged Fwyn ferch Ifan' yn ochrau [[Gwynedd]]. Un o'r cyntaf y gwyddem amdani yw 'Elen Luddiog ferch Cystennin' a sonir amdani yng nghasgliad [[Peniarth]] yn y 13eg ganrif. Fel arfer, 'f' fach a roddir yn hytrach na phriflythyren. Gofier hefyd am 'Franwen ferch Llŷr' (Llyfr Gwyn; 14eg ganrif). Weithiau, newidiodd 'merch' yn 'ych' (!) megis yn yr enw ''Nest ych Hywel' ((1759) neu yn 'ach' fel y geir yn 'Elen ach William' ((16eg ganrif).
 
'Merch fedydd' ydy ''god-daughter'', 'merch-yng-nghyfraith' am ''daughter-in-law'' a 'merch wen' ydy ''stepdaughter''. 'Merch fonheddig' ydy dynes o dras, neu ''gentle-woman'' a 'merch ordderch' ydy 'merch anghyfreithlon' (''illegitimate'').