Yr oeddRoedd '''Anna Eleanor Roosevelt''' ([[11 Hydref]] [[1884]] – [[7 Tachwedd]] [[1962]]) yn wleidydd, diplomydd ac actifydd Americanaidd. Hi yw'r [[Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau|Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau]] a wasanaethodd am y cyfnod hiraf, wedi iddi ddal y swydd o fis Mawrth 1933 i fis Ebrill 1945 yn ystod pedwar tymor ei gŵr, [[Franklin D. Roosevelt]], fel [[Arlywydd yr Unol Daleithiau]]. Gwasanaethodd hefyd fel Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau i Gynulliad Cyffredinol y [[Y Cenhedloedd Unedig|Cenhedloedd Unedig]]. Fe'i gelwir yn "Brif Foneddiges y Byd" gan yr Arlywydd [[Harry S. Truman]] wrth iddo dalu teyrnged i'r hyn yr oedd Roosevelt wedi cyflawni dros hawliau dynol.