Rhufain hynafol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: cs:Starověký Řím
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 34:
:''Prif erthygl: [[Yr Ymerodraeth Rufeinig]]
[[Image:Roman Empire Map.png|thumb|right|350px|Yr ymerodraeth ar ei heithaf yn y flwyddyn 116.]]
Yr Ymerodraeth Rufeinig oedd y cyfnod yn hanes y wladwriaeth Rufeinig a ddilynodd [[y Weriniaeth Rufeinig]] ac a barhaodd hyd y [[5ed ganrif]] OC yn y gorllewin, ac fel [[yr Ymerodraeth Fysantaidd]] hyd [[1453]] yn y dwyrain. Yn wahanol i'r Weriniaeth, lle'r oedd yr awdurdod yn nwylo [[Senedd Rhufain]], llywodraethid yr ymerodraeth gan gyfres o ymerodron, gyda'r Senedd yn gymharol ddi-rym. Awgrymwyd nifer o ddyddiadau gan haneswyr ar gyfer diwedd y weriniaeth a dechrau'r ymerodraeth; er enghraifft dyddiad apwyntio [[Iŵl Cesar]] fel ''dictator'' am oes yn [[44 CC]], buddugoliaeth etifedd Cesar, [[Augustus|Octavianus]] ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]] yn [[31 CC]], a'r dyddiad y rhoddodd y Senedd y teitl "Augustus" i Octavianus ([[16 Ionawr]], [[27 CC]]).
 
Roedd Rhufain eisoes wedi meddiannu tiriogaethau helaeth yng nghyfnod y Weriniaeth; daeth yn feistr ar ran o [[Sbaen]] yn dilyn ei buddugoliaeth yn y rhyfel cyntaf yn erbyn [[Carthago]], a dilynwyd hyn gan diriogaethau eraill. Cyrhaeddodd yr ymerodraeth ei maint mwyaf yn ystod teyrnasiad [[Trajan]] tua [[177]]. Yr adeg honno roedd yr ymerodraeth yn ymestyn dros tua 5,900,000 km² (2,300,000 milltir sgwar) o dir.
 
Thannwyd yr ymerodraeth yn ddwy ran, yn y gorllewin a'r dwyrain, fel rhan o ddiwygiadau yr ymerawdwr [[Diocletian]]. Daeth yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin i ben yn [[476]] pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr olaf, [[Romulus Augustus]]. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am bron fil o flynyddoedd wedi hyn fel yr Ymerodraeth Fysantaidd. Cafodd yr ymerodraeth Rufeinig ddylanwad enfawr ar y byd, o ran iaith, crefydd, pensaerniaeth, athroniaeth, cyfraith a llywodraeth; dylanead sy'n parhau hyd heddiw.
 
{{Rhufain hynafol}}