Ffatri Airbus UK, Brychdyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 24:
Ym 1966/67 fe gafodd un o’r ddau awyren Comet diwethaf ei addasu i fod yn awyren cynddelw i’r HS801 Nimrod, a hedfanodd am y tro cyntaf o Frychdyn ar y 23ain Mai 1967 a glaniodd yn Woodford, ger Manceinion. Rhwng 1966 ac 1970 fe gafodd prif ddarnau 46 awyren Nimrod eu hadeiladu ym Mrychdyn ac eu cludo ar yr y ffyrdd i Woodford i'w cyd-osod a hedfan.
 
Ym 1962 fe gymerwyd de Havilland drosodd gan Hawker Siddeley Aviation Ltd., a hefyd ym 1962 fe ddechreuodd paratoadau ar gyfer cynhyrchu y DH125 ‘executive jet’. Fe roedd y 125 yn awyren llwyddianusllwyddiannus dros ben gyda 871 ohonynt yn cael eu cynhyrchu a'u hedfan o Brychdyn rhwng 1963 ac 1996. Fe gafodd [[British Aerospace]] ei ffurfio yn 1977 fel yr unig gynhyrchwr awyrenau gwladol ond fe werthwyd y busnes ‘Corporate Jets’ i [[Raytheon]] o’r [[UDA|Unol Daleithiau]] ym 1993. Mae prif ddarnau o’r awyren 125 yn cael eu adeliladu o hyd ym Mrychdyn ac yn cael eu cludo dramor i’r Unol Daleithiau i'w gorffen fel yr awyren Hawker 800.
 
Ym 1969 fe gafodd Airbus Industrie ei ffurfio rhwng Ffrainc a’r Gorllewin yr Almaen, fe cafodd Hawker Siddeley ei gynnwys fel contractwr i gynhyrchu yr adain i’r awyren A300 ac fe gludwyd y par cyntaf i Bremen ym mis tachwedd 1971. Fe cludwyd y canfed par ym 1978.
Llinell 38:
*2007, y 5,000fed par o adain yn cael eu trosglwyddo
 
Yng nghanol 2011 bu 36 par o adenydd y teulu A320 yn cael ei cynhyrchu pob mis , ac mae y cyfradd hwn i’w godi i 40 y mis o ddechrau 2012 . Fe cyflawnwyd y 5000ed par o adenydd I’r teulu A320 yn nghanol 2011. Mae'r A320 wedi bod mor llwyddianusllwyddiannus , gyda fersion newydd yr A320neo wedi ei datblygu , fod yna dros 12000 o'r awyrenau wedi eu gwerthu hyd at ddiwedd 2015. Mae y nifer y mis o'r awyrenau yw gynhyrchu i godi o'r 42 y mis yn 2015 i 50 y mis yn 2017 a 60 y mis yn 2019 .
 
Yn Awst 2001 fe ddechreuodd gwaith ar y ‘ Ffatri orllewinol “ i adeiladu adain i’r ‘Superjumbo’ A380 ac fe agorwyd yng Ngorffennaf 2003. Fe wariwyd rhyw £350m ar y cyflesterau ac mae yr adeilad yn 400 meter o hyd a 200 meter o led, un o'r adeiladau mwyaf yn y wlad. Fe orffenwyd yr adain cyntaf ym Mawrth 2004; mae pob adain yn 36 meter o hyd ac yn pwyso rhyw 30 tunell. Yn lle hedfan mewn awyren cludo 'Beluga' mae maint yr adain yn golygu rhaid iddynt dechrau eu taith ar yr [[Afon Dyfrdwy]] i [[Mostyn]] lle meant yn cael eu cludio i [[Bordeaux]] ar y llong "Ville de Bordeaux". Fe hedfanodd yr A380 am y tro cyntaf yn Ebrill 2005 ac mae 317 o'r awyrenau (tuag at mis Tachwedd 2015) wedi eu gwerthu i gwmniau hedfan y byd gyda 176 o'r awyrenau nawr yn hedfan .