Ffosffad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Manion, replaced: oddiwrth → oddi wrth using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Ffynonellau diwydiannol ffosffad: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 47:
O amaethyddiaeth y daw'r galw diwydiannol fwyaf am ffosffad. Yn ddiarwybod iddynt, ers cyfnod yr hen Eifftiaid bu ffermwyr yn rhoi tail neu mineralau yn ei gynnwys ar gnydau i'w hysgogi<ref>{{eicon en}} Heinrich W. Scherer. "Fertilizers" in ''Ullmann's Encyclopedia of Industrial Chemistry''. 2000, Wiley-VCH, Weinheim. [[Digital object identifier|doi]]:[[doi:10.1002/14356007.a10 323.pub3|10.1002/14356007.a10_323.pub3]]</ref>. Ar ôl darganfyddiad bodolaeth, ac yna phwysigrwydd, ffosfforws aethpwyd ati i ddefnyddio wrin (troeth) ac esgyrn fel ffynhonnell. Yn 1802 darganfuwyd tomennydd enfawr o faw adar yn ne America gan Alexander von Humboldt (yn anturiaethwr gwyddonol o'r Almaen) ac fe aeth ati i astudio ei gwerth fel cwrtaith. Roedd brodorion y cyfandir eisioes yn gyfarwydd â'i briodoleddau ac mi ddaw'r enw amdano, Giwana (''Guano'') (cyfarwydd iawn yng Nghymru), o'r enw Quechua (''wanu'') am unrhyw faw anifail a ddefnyddid fel cwrtaith. Erbyn canol y ganrif roedd diwydiant allforio mawr wedi tyfu<ref>{{eicon en}} http://www.peruthisweek.com/blogs-history-of-the-peruvian-guano-industry-103794 Darllennwyd 17 Ebrill 2017.</ref><ref>{{eicon en}} http://www.historytoday.com/john-peter-olinger/guano-age-peru (angen tanysgrifiad)</ref>. Erbyn diwedd yr 19 ganrif roedd mwyngloddio creigiau ffosffad wedi cymryd lle giwana fel prif ffynhonnell ffosfforws diwydiannol, ond erys galw sy'n cynyddu'n ddiweddar amdano o du amaethwyr "organig"<ref>{{eicon en}} http://www.organicfarming.com.au/product/guano/ Darllennwyd 17 Ebrill 2017.</ref>.
 
Ers yr 1890au mwyngloddio creigiau ffosffad anorganig bu brif ffynhonnell yr elfen. Ar ffurf (amhur) ffosffad [[calsiwm]] (apatit) y mae'r rhan fwyaf ohono. Fe'i ffurfiwyd o waddodion morol dros filiynau o flynyddoedd cyn dod i'r wyneb drwy symudiadau [[Tectoneg platiau|tectonig]] y ddaear. Yn yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] cychwynnodd y diwydiant, ond mae bellach cyflenwadau sylweddol ohono yn [[Tsieina]] a [[Rwsia]]. Ond o bwys yn yr hinsawdd geo-wleidyddol bresennol yw bod tua hanner cyflenwad y byd i'w canfod mewn gwledydd arabaidd<ref>{{eicon en}} http://minerals.usgs.gov/minerals/pubs/commodity/phosphate_rock/ Darllennwyd 17 Ebrill 2017.</ref> , yn bennaf [[Moroco]], lle mae dros 70% ar hyn o bryd. Nid yw'r broses o fwyngloddio yn garedig i'r amgylchedd am sawl reswm. Un yw presenoldeb [[Metel|metalau]] trwm gwenwynig (Cd, Pb, Ni, Cu, Cr ac U) yn y creigiau. Mae hanes gwlad-ynys fechan [[Nawrw]] (y drydedd lleiaf yn y byd, ar ôl y [[Y Fatican|Fatican]] a [[Monaco]]) yn enghraifft o'r ddilema wleidyddol-fasnachol. Am rai degawdau ar ôl yr ail ryfel byd roedd gan y brodorion un o safonau byw ucha'r [[Y Cefnfor Tawel|Môr Tawel]], ac yn y 1960au hwyr a'r 1970au cynnar roedd gan ei phoblogaeth o ryw 10,000 yr incwm yn ôl y pen uchaf o unrhyw wlad yn yr holl fyd. Erbyn 2000 'roedd y mwyn wedi'i llwyr disbyddu. O 2001 i 2007 bu'r ynys yn ddibynnol ar gytundeb i gynnar carchar ar gyfer Llywodraeth [[Awstralia]]. Gyda 10% o'r boblogaeth yn dibynnu arno, daeth tlodi yn sgil ei gai yn 2008 ac fe'i ail hagorwyd yn garchar i [[Ffoadur|ymgeiswyr lloches]] yn 2012<ref>{{eicon en}} http://www.dailytelegraph.com.au/follow-fraser-not-howard-senate-told/news-story/5f9b57540d23b5f1f532cf1d4af61f9f ''"Asylum bill passes parliament". [[The Daily Telegraph (Australia)|The Daily Telegraph]]. 16 Awst 2012. Darllennwyd 17 Ebrill 2017.''</ref>.
 
Dadla rhai na fydd cyflenwadau cyfleus (sef rhâd) mwyn ffosffad yn para'n hir i'r dyfodol, gan ddylanwadi'n sylweddol ar [[amaeth]]yddiaeth (ac, felly, prisiau bwyd). Yn 2011, dadleuodd Carpenter a Bennett<ref>{{eicon en}} ''Carpenter S.R. & Bennett E.M. (2011). "Reconsideration of the planetary boundary for phosphorus". Environmental Research Letters. '''6''' (1): 1–12. [[Bibcode]]:2011ERL.....6a4009C. [[Digital object identifier|doi]]:10.1088/1748-9326/6/1/014009.''</ref> y byddai prinder byd eang ohono erbyn 2040. Bu cryn gyhoeddusrwydd i hyn yn y wasg gyda chymharu "brig ffosfforws"<ref>{{eicon en}} http://www.americanscientist.org/issues/pub/does-peak-phosphorus-loom</ref> gyda'r "brig olew"<ref>{{eicon en}} https://www.princeton.edu/hubbert/the-peak.html Darllennwyd 17 Ebrill 2017.</ref> - y gred lle yr ydym wedi pasio'r foment o gynhyrchu mwyaf y sylweddau. O hyn allan byddant yn brinnach. Yn sicr, er bod ffosfforws yn un o'r elfennau mwyaf cyffredin mewn creigiau (0.1%<ref>{{eicon en}} Greenwood, N. N.; & Earnshaw, A. (1997). Chemistry of the Elements (2nd Edn.), Oxford:Butterworth-Heinemann. ISBN 0-7506-3365-4.</ref>) mae wedi’i gwasgaru'n denau. Mae ein harfer o amaeth diwydiannol presennol yn dibynnu ar ''crynodiadau'' uchel ohono.