Gaius Suetonius Paulinus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) B →Bywgraffiad: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB |
||
Llinell 4:
Ni wyddir man na dyddiad geni Paulinus. Wedi bod yn ''[[praetor|braetor]]'', fe'i gyrrwyd i [[Mauretania]] yn [[42]] fel ''[[legatus|legatus legionis]]'' i ddelio a gwrthryfel. Ef oedd y Rhufeiniwr cyntaf i groesi [[Mynyddoedd yr Atlas]] ac mae [[Plinius yr Hynaf]] yn dyfynnu ei ddisgrifiad o'r ardal.
Yn [[59]] penodwyd ef yn [[Rhestr Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain|llywodraethwr Prydain]] yn lle [[Quintus Veranius]], oedd wedi marw tra'n llywodraethwr. Bu'n ymladd am ddwy flynedd yn erbyn llwythi [[Cymru]] ac yn [[61]] ymosododd ar Ynys Môn.
Tra'r oedd Paulinus yng Nghymru, manteisiodd llwyth yr [[Iceni]] ar y cyfle i wrthryfela dan eu brenhines [[Buddug]]. Cipiasant y ''[[colonia]]'' Rhufeinig [[Camulodunum]] ([[Colchester]]) a gorchfygasant leng dan arweiniad [[Petillius Cerialis]]. Dychwelodd Paulinus i Londinium ([[Llundain]]).
Ffurfiodd Paulinus fyddin yn cynnwys y lleng [[Legio XIV Gemina|XIV ''Gemina'']], rhan o'r ''[[Legio XX Valeria Victrix|XX Valeria Victrix]]'' a milwyr cynorthwyol.
Wedi derbyn atgyfnerthiad o [[Germania]] aeth Paulinus ati i gosbi'r brodorion am y gwrthryfel, ond adroddodd y [[procurator]], [[Gaius Julius Alpinus Classicianus]], i'r ymerawdwr [[Nero]] fod agwedd Paulinus tuag atynt yn debyg o fagu drwgdeimlad ac arwain at wrthryfel pellach. Penderfynwyd symud Paulinus o'i swydd fel llywodraethwr, a daeth [[Publius Petronius Turpilianus]] yn llywodraethwr yn ei le.
|