Ethan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Cyfansoddyn]] [[cemeg]]ol a ddynodir â'r fformiwla gemegol C2H6 yw '''ethan'''. Dyma'r unig enghraifft o [[alcan]] dau-[[carbon|garbon]], h.y. [[hydrocarbon]] [[aliphatig]]. Ar dymheredd a phwysau safonol, mae ethan yn [[nwy]] heb liw nac arogl.
 
Ceir rhywfaint o ethan yn [[awyrgylch]] y ddaear ac ar rai wrthrychau seryddol, fel ar wyneb y blaned gorrach [[Makemake (planed gorrach)|Makemake]]. Yn achos awyrgylch y ddaear, mae'n cael ei greu fel adwaith i ymbelydredd yr haul ar y nwy [[methan]]. Ond mae presenoldeb ethan ar blanedau allanol fel Makemake, ar y lloeren [[Titan (lloeren)|Titan]]<ref>Bob Brown ''et al.'' (2008). [http://www.jpl.nasa.gov/news/news.cfm?release=2008-152 "NASA Confirms Liquid Lake on Saturn Moon"] Gwefan NASA.</ref> ac mewn rhai [[comed]]au, wedi arwain rhai gwyddonwyr i ddadlau y bu ethan yn un o gynhwysiad gwreiddiol [[nifwl yr haul]] y credir y ffurfiwyd yr [[haul]] ei hun a'r [[planed]]au ohoni.
 
Yn y [[diwydiant olew]], ynysir ethan o [[nwy naturiol]] ac mae'n sgil-gynnyrch puro petroliwm hefyd. Ei phrif ddefnydd yw fel stoc bwydo petrogemegol ar gyfer cynhyrchi [[ethylen]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Dolenni allanol==