Carol plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B wedi symud Carolau plygain i Carol plygain |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Carol]]au a genir yng ngwasanaeth [[y plygain]], yn yr [[eglwys]] rhwng tri a chwech o'r gloch y bore, fel arfer, ar fore dydd [[Nadolig]], yw '''carolau plygain'''. Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair [[Lladin]] ''pullicantio'', sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'). Sylwer hefyd nad oedd 'carol' yn golygu'r yn peth yn union ag y mae heddiw ; enw ar fath o gerdd draethiadol, gan amlaf ar y [[mesurau rhydd]], ydyw 'carol' a cheir enghreifftiau o garolau seciwlar hefyd, e.e. y [[Carol haf|carolau haf]]. Er y gellid galw y carolau plygain yn "[[carol Nadolig|garolau Nadolig]]" felly, mae eu naws yn bur wahanol i'r carolau Nadolig sy'n gyfarwydd i ni heddiw.
== Natur a hanes ==
|