Newyn Bengal 1943: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Newyn Bengal 1943''' yn un o nifer i effethio ar [[Bengal]] pan oedd yn rhan o'r [[Ymerodraeth Brydeinig]]. Credir i hyd at 4 miliwn o bobl farw.
 
Yn ystod blynyddoedd cynnar yr [[Ail Ryfel Byd]], roedd yr ymerodraeth wedi dioddef nifer o golledion yn y dwyrain, gan golli [[Singapore]] ac yna [[Burma]] i fyddin [[Siapan]]. Roedd Burma yn allforio [[reis]] ar raddfa fawr yn y cyfnod yma, gan gyflenwi tua 20% o anghenion Bengal. Cafodd llawr o reis ei allforio i'r Dwyrain Canol, i fwydo milwyr yno, a gwnaed y sefyllfa'n waeth gan storm a effeithiodd ar diroedd ger yr arfordir. Cred rhai haneswyr, er enghraifft [[Amartya Sen]], mai'r hyn a achosodd y newyn oedd fod y sôn am brinder wedi peri i ffermwyr gadw gafael ar eu reis yn hytrach na'i werthu. Parodd hyn i brisiau godi, nes bod llawer o'r boblogaeth yn methu ei brynu.
 
==Llyfryddiaeth==