Assyria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: thumb|300px|Ymerodraeth Newydd Assyria (gwyrdd). Ardal o amgylch rhan uchaf Afon Tigris yn yr hyn sydd heddiw yn Irac oedd '''Assyria''' ([[Aca...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:30, 24 Tachwedd 2008

Ardal o amgylch rhan uchaf Afon Tigris yn yr hyn sydd heddiw yn Irac oedd Assyria (Acadeg: Aššur}}. Defnyddir yr enw hefyd am y wladwriaeth a sefydlwyd yn yr ardal yma, a dyfodd yn ymerodraeth. Daw'r enw o enw'r brifddinas wreiddiol, Assur.

Ymerodraeth Newydd Assyria (gwyrdd).

Yn ystod y cyfnod cynnar, o'r 20fed ganrif CC hyd y 15fed ganrif CC, roedd Assyria yn rheoli'r rhan fwyaf o ran uchaf Mesopotamia. O'r cyfnod yma hyd y 10fed ganrif CC, lleihaodd ei grym, cyn iddi ennill grym eto trwy orchfygu ei chymdogion. Ymestynnodd ei dylanwad ymhellach dan Ymerodraeth Newydd Assyria, 911 CC hyd 612 CC. Dan ei brenin Ashurbanipal, a deyrnasodd o 668 CC hyd 627 CC, roedd yr ymerodraeth yn ymestyn cyn belled a'r Aifft. Yn ddiweddarach, collwyd yr ymerodraeth yn dilyn goresgyniadau Babilon a Persia.

Heblaw Assur, roedd ei dinasoedd pwysig yn cynnwys Kalhu (Nimrud) a Nineveh.