Ymerodraeth Newydd Assyria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Defnyddir y term '''Ymerodraeth Newydd Assyria''' am y cyfnod yn hanes [[Assyria]] rhwng [[934 CC]] a [[609 CC]]. Hyd y cyfnod yma, roedd grym Assyria wedi bod yn gyfyngedig i ardal [[Mesopotamia]], ond o gyfnod y brenin [[Adad-nirari II]], datblygodd yn ymerodraeth fawr, gyda'i meddiannau yn ymestyn cyn belled a'r [[Yr Hen Aifft|Aifft]] am gyfnod. Cred rhai haneswyr mai hi oedd y wir ymerodraeth gyntaf mewn hanes.
 
Ychwanegwyd at yr ymerodraeth gan [[Ashurnasirpal II]] (883 CC - 859 CC), fu'hnn ymgyrchu cyn belled a [[Ffenicia]]. Parhaodd yr ymgyrchoedd milwrol dan ei fab, [[Shalmaneser III]] (858 CC - 823 CC), pan gipiwyd dinas [[Babilon]] ac ymladd yn erbyn cynghrair o wladwriaethau Syraidd dan arweiniad [[Hadadezer]], brenin [[Damascus]] yn 853 CC, cynghrair oedd yn cynnwys [[Ahab]], brenin [[Teyrnas Israel|Israel]]. Yn ddiweddarach gorfododd Shalmaneser [[Jehu]], brenin Israel, a dinasoedd [[Tyrus]] a [[Sidon]] i dalu teyrnged iddo.
 
Am gyfnod, rhwng 823 a 745 CC, edwinodd grym Assyria dan reolwyr oedd yn cynnwys y frenhines [[Semiramis]]. Yn 746 CC daeth [[Tiglath-pileser III]] i'r orsedd, a dechreuodd Assyria ymestyn ei thiriogaethau unwaith eto, gan ymgyrchu yn Syria a Ffenicia a chipio Babilon unwaith eto. Yn [[727 CC]], olynwyd ef gan [[Shalmaneser V]]. Bu ef farw'n annisgwyl yn [[722 CC]] wrth ymgyrchu yn [[Samaria]], a chipiwyd yr orsedd gan [[Sargon II]]. Concrodd ef Samaria, a rhoi diwedd ar Deyrnas Israel trwy gaethgludo 27,000 o'i thrigolion.