Leslie Patrick Abercrombie: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Manion fformat
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Sir (Leslie) Patrick Abercrombie - NPG x82059.jpg|bawd|Syr Patrick Abercombie]]
Roedd Syr '''Leslie Patrick Abercrombie''' ([[6 Mehefin]] [[1879]] – [[23 Mawrth]] [[1957]]) yn gynllunydd tref Prydeinig ac yn bensaer, sydd fwyaf adnabyddus am ei gynlluniau i ddatblygu [[Llundain]] wedi’r [[Ail Ryfel Byd]], ''The Greater London Plan''<ref> Assa Briggs (Gol) ''A Dictionary of 20th Century Biography'' BCA 1991</ref>.
 
Ganwyd yn [[Ashton-upon-Mersey]], derbyniodd ei addysg ym [[Prifysgol Lerpwl|Mhrifysgol Lerpwl]], lle daeth yn athro dylunio dinesig rhwng 1915 a 1935. Yna symudodd i [[Coleg Prifysgol Llundain|Goleg y Brifysgol, Llundain]], lle bu'n athro cynllunio tref o 1935 i 1946. Enillodd gystadleuaeth ym 1913 am ailgynllunio canol ddinas [[Dulyn]] ac fe ysgrifennodd y gwerslyfr safonol ''Town and Country Planning'' (1933). Ehangwyd ei gynllun cyntaf i ddatblygu Llundain, sef ''The County of London Plan'' (gyda JH Forshaw, 1943), ym 1944, gyda chymorth tîm o arbenigwyr, i ''the Greater London Plan'', a oedd yn berthnasol i gynllunio cludiant, dosbarthiad poblogaeth, diwydiant, gwregys gwyrdd, a mwynderau eraill Llundain Fwyaf. Paratôdd gynlluniau ar gyfer trefi a rhanbarthau eraill yn y DU, gan gynnwys [[Caeredin]], [[Plymouth]], [[Kingston upon Hull]], [[Caerfaddon]], [[Bryste]], [[Sheffield]], [[Bournemouth]], a Gorllewin Canolbarth Lloegr.
 
Fe'i hurddwyd yn farchog yn 1945.
Llinell 11:
{{cyfeiriadau}}
 
{{Nodyn:Eginyn pensaernïaeth neu adeiladu}}
 
{{Rheoli awdurdod}}