Paliwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Y [[Pab Ioan Pawl II yn gwisgo'r paliwm.]] Urddwisg yn yr Eglwys Gatholig a roddir gan y Pab i a...' |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 2:
Urddwisg yn [[yr Eglwys Gatholig]] a roddir gan y [[Pab]] i [[archesgob]] yw'r '''paliwm''' (ffurf luosog: palia).<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [pallium].</ref> Mae'n arwydd o undeb yr archesgob â'r Pab a'i ufudd-dod iddo. Fe'i wisgir hefyd gan [[esgob]]ion a chanddynt [[esgobaeth fetropolitan]], yn ogystal â'r Pab ei hunan. Stribyn gwlân gwyn a wisgir am yr ysgwyddau ac uwchben y [[casul]] yw'r paliwm, a chanddo labed byr neu grogdlws ar y blaen a'r cefn. Câi'r ffurf fodern ei marcio gyda chwe chroes ddu. Daw'r gwlân o ddau oen a roddir i'r Pab yn Eglwys Santes Agnes ar ŵyl y santes honno.<ref>{{eicon en}} "[http://www.newadvent.org/cathen/11427a.htm Pallium]" yn y ''Catholic Encyclopedia'' (1911). Adalwyd ar 8 Ionawr 2017.</ref> Mae'n rhaid i'r archesgob wisgo'r paliwm mewn mannau arbennig y [[litwrgi]], megis yr [[ordeiniad]].
Mae'n debyg i'r paliwn ddatblygu o [[himation]] yr hen Roegiaid, a elwid yn ''pallium'' gan y Rhufeiniaid. Dilledyn uchaf oedd hwn a wisgir yn fantell neu ei blygu a'i gario dros yr ysgwydd, ac yn enghraifft o wisg arbennig arweinwyr a swyddogion. Dros amser trodd yn ddilledyn cul, yn debyg i [[sgarff]], a chafodd ei fabwysiadu gan y [[Cristnogaeth|Cristnogion]]. Mae'r paliwn a roddir gan y Pab yn dyddio'n ôl i'r
Gwisgir mantell debyg gan esgobion yr [[Eglwys Uniongred Ddwyreiniol]] a elwir yn [[omophorion]], a wneir o frodwaith sidan neu felfed.
|