Parafeddyg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 9:
 
Daw'r gair paramedic o ddau air 'para' sy'n golygu 'ategol' (hynny yw yn ategol i'r ddarpariaeth arferol: meddygon a nyrsus mewn ysbyty), a [[meddyg]].
 
 
==Hanes parafeddygaeth==
Mae cysylltiad wedi bod rhwng parafeddygaeth a gwrthdaro milwrol trwy gydol ei esblygiad. Mae'r cofnod cyntaf o broses ffurfiol o ddelio gyda pobl sydd wedi eu anafu yn dyddio'n ôl i Lengoedd Ymerodraeth Rhufain, lle roedd gan y Canwrieid hŷn, na oedd yn gallu ymladd bellach, yn gyfrifol am drefnu i symyd y rhai oedd wedi eu anafu oddiar maes y frwydr a chyflenwi rhyw fath o ofal. Er nad oedd yr unigolion rhain yn feddygon, mae'n debyg y buent ymysg y [[llawfeddyg|llawfeddygon]] cynharaf, gan bwytho anafiadau, a chyflawni trychiadau, ond roedd hyn yn ôl yr angen ac nid oeddent yn derbyn hyfforddiant. Parhaodd y drefn hwn drwy gydol y [[Croesgadau]], gyda Marchogion ''Hospitallers'' yn [[Urdd Sant Ioan o Jeriwsalem]], sydd yn adnabyddus drwy gydol y [[Y Gymanwlad Brydeinig|Gymanwlad Brydeinig]] hyd heddiw odan yr enw [[Ambiwlans Sant Ioan]] ([[Saesneg]]: ''St. John Ambulance''), gan barhau i lewnwi rôl tebyg.
 
Crewyd y [[cerbyd]] cyntaf a ddylunwyd yn benodol fel ambiwlans yn ystod [[Rhyfel Napoleon]], a gelwyd yn ''ambulance volante''. Crewyd gan Brif Llawfeddyg Napoleon, Barwn [[Dominique Jean Larrey]], bwriad y ddyfais a gafodd ei dynnu gan geffyl, oedd i gludo cleifion at y llawfeddygon, a oedd yn disgwyl tu cefn i faes y brwydr, yn gyflym (ac yn ysgwytol...dodd ganddynt ddim sbringiau). Os oeddent yn goroesi'r daith gyda'u anafiadau, byddent yn derbyn y lefel o sgiliau llawdrniaeth a sepsis a oedd yn bodoli yn yr 19eg ganrif cynnar, felly roedd eu hunllef ond yn dechrau! Ni gysidrwyd y gwasnaethau milwrol fod fath gerbydau'n ffynhonell cyffredin, a ni roddwyd blaenoriath i driniaeth y rhai a oedd wedi eu anafu; nid oedd yn anghyffredin i gerbydau fel rhain gael y swydd o gludo arfau rhyfel newydd i flaen y gâd, cyn cludo'r cleifion yn ôl. Ni newidodd ddyluniad syml y cerbydau rhain hyd drost canrif.
 
==Cyfeiriadau==