Morffoleg (iaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: fy:Morfology
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mewn [[ieithyddiaeth]], '''morffoleg''' yw'r astudiaeth o adeiladwaith [[gair|geiriau]], am y rhyngwyneb rhwng [[ffonoleg]] a [[cystrawen|chystrawen]]. Mae cydrannau yn eiriau, sy'n cael eu hadnabod fel [[morffem|morffemau]].
 
Gwahaniaethir rhwng [[morffoleg ffurfdroadol]] a [[morffoleg darddiadol]]. Mae morffoleg ffurfdroadol yn ymdrin â sut mae geiriau'n newid eu siâp i fynegi nodweddion gramadegol megis [[rhif]] (unigol neu luosog) a [[cyflwr gramadegol|chyflwr]] mewn [[enw|enwau]], neu [[amser]] (presennol neu gorffennol) a pherson mewn [[berf|berfau]]. Mae morffoleg darddiadol ar y llaw arall yn ymdrin â sut mae morffemau yn clymu wrth ei gilydd i fynegi gwahaniaethau geirfaol, fel, er enghraifft, y gellir creu [[ansoddair|ansoddeiriau]] yn y Gymraeg drwy ychwanegu'r [[olddodiad]] -''og'' at fôn enw, megis ''haul'' + -''og'' > ''heulog''.
 
Fel arfer, mae morffemau ffurfdroadol yn digwydd yn agosach at fôn gair na morffemau tarddiadol. Gwelir hyn yn y Gymraeg mewn ffurf megis ''lleihaodd'', sy'n cynnwys tair morffem, ''llai'' + -''ha''- 'peri' + -''odd'' 'trydydd unigol gorffennol'. Morffem darddiadol yw -''ha''- sy'n creu berf yn golygu 'peri i fod yn' allan o ansoddair, a morffem ffurfdroadol yw -''odd'' gan ei bod hi'n mynegi nodwedd ramadegol, amser gorffennol. Mae'r drefn yn yr achos hwn felly yn adlewyrchu'r tueddiad cyffredinol mewn iaith.