Theophilus Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ehangu a diwygio (rargian - roedd hyn yn eginyn digon pitw am ddyn mor enwog!)
Llinell 1:
Hynafiaethydd o Gymro ac awdur y llyfr enwog ''[[Drych y Prif Oesoedd]]'' oedd [['''Theophilus Evans]]''' ([[1693]] - [[1797]]). Ganwyd yng [[Cwm Cou|Nghwm Cou]], [[Ceredigion]], ger [[Castellnewydd Emlyn]]. Roedd ei fab-yng-nghyfraith Hugh Jones yn dad [[Theophilus Jones]], awdur ''A History of Brecknockshire'' (1805-1809).
 
==Gyrfa==
{{eginyn Cymry}}
Cafodd ei fagu yng Nghwm Cou. Fe'i urddwyd yn offeiriad yn 1718 a gwasanethodd mewn sawl plwyf yn yr hen [[Sir Frycheiniog]] am weddill ei oes (ac eithrio 1722-1728 pan fu yn [[Llandyfriog]], Ceredigion). Roedd hyn yn cynnwys cyfnodau fel curad dan [[Moses Williams]] ([[Tefynnog]], 1717-1722) ac fel ficer yn [[Llangamarch]] lle bu [[Williams Pantycelyn]] yn gurad iddo.
 
==''Drych y Prif Oesoedd''==
[[Categori:Pobl o Geredigion|Evans, Theophilus]]
Yn y gyfrol ''Drych y Prif Oesoedd'' (1716 a 1740), mae Theophilus yn rhoi hanes y [[Brythoniaid]] a'r [[Cymry]] hyd cwymp y tywysogion gan dynnu ar sawl ffynhonnell hynafiaethol.
[[Categori:Llenorion Cymraeg|Evans, Theophilus]]
 
[[Categori:Hanesyddion Cymreig|Evans, Theophilus]]
Yn 1703, cyhoeddodd y Llydäwr [[Paul Yves Pezron]] ei lyfr enwog ''Antiquité de la nation et de la langue des Celtes, autrement appelée Gaulois''. Cafwyd cyfieithiad Saesneg yn 1706 fel ''Antiquities of Nations'' a argraffwyd sawl gwaith ar ôl hynny. Dyma un o brif ffynonellau Theophilus Evans, sy'n cyfeirio sawl gwaith at Pezron gydag edmygedd mawr. Yn ôl damcaniaeth Pezron, y Gymraeg oedd iaith Gomer fab Jaffeth ac roedd y [[Cymry]] a'r [[Llydawyr]] yn ddisgynyddion iddo. Honodd hefyd fod y Groegiaid gynt yn adnabod y "Gomeriaid" fel y [[Titaniaid]].<ref>Glenda Carr, ''William Owen Pughe'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1983), tudalennau 77, 183.</ref> Ar sail gwaith Pezron mae awdur y ''Drych'' yn cyhoeddi'n groyw, ar ôl adrodd hanes cymysgu'r ieithoedd ar ôl cwymp [[Tŵr Babel]],
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru|Evans, Theophilus]]
 
[[Categori:Genedigaethau 1693|Evans, Theophilis]]
:A phwy oedd yn siarad Cymraeg, a dybiwch chwi, y pryd hwn[n]w, ond Gomer, mab hynaf Japheth ab Noa ab Lamech (... ) ab Adda ap Duw. Dyma i chwi waedoliaeth ac ach yr hen Gymry, cyfuwch a'r un a all un bonedd daearol fyth bosibl i gyrraedd ato, pe baem ni eu hepil yn well o hyn[n]y.<ref>Theophilus Evans, ''Drych y Prif Oesoedd'', pennod 8,9.</ref>
[[Categori:Marwolaethau 1797|Evans, Theophilus]]
 
==Llyfryddiaeth==
===Gwaith Theophilus Evans===
*''Galwedigaeth Ddifrifol i'r Crynwyr..'' (1715). Cyfieithiad.
*''Cydwybod y Cyfaill Gorau ar y Ddaear'' (1715). Cyfieithiad.
*''Drych y Prif Oesoedd'' (1716). Y fersiwn cyntaf.
*''Prydferthwch Sancteiddrwydd yn y Weddi Gyffredin'' (1722). Cyfieithiad.
*''Pwyll y Pader...'' (1733). Cyfieithiad.
*''Llythyr-Addysc Esgob Llundain'' (1740). Cyfieithiad.
*''Drych y Prif Oesoedd'' (1740). Ail argraffiad diwygiedig, llawer helaethach.
*''Drych y Dyn Maleisus'' (1747?). Pregethau.
*''Pregeth yn dangos beth yw Natur ac Anian y Pechod yn erbyn Yr Ysbryd Glân'' (1760)
 
===Golygiadau o'i waith ac ymdriniaethau===
*Garfield H. Hughes, ''Theophilus Evans a Drych y Prif Oesoedd'' (Caerdydd, 1963)
*Bedwyr Lewis Jones, 'Theophilus Evans', ''Y Traddodiad Rhyddiaith'' (Gwasg Gomer, 1970)
*David Thomas (gol.), ''Drych y Prif Oesoedd'' (Caerdydd, 1955). Argraffiad safonol gyda nodiadau.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{DEFAULTSORT:Evans, Theophilus}}
[[Categori:HanesyddionHynafiaethwyr Cymreig|Evans, Theophilus]]
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru|Evans, Theophilus]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg|Evans, Theophilus]]
[[Categori:Pobl o Geredigion|Evans, Theophilus]]
[[Categori:Genedigaethau 1693|Evans, Theophilis]]
[[Categori:Marwolaethau 1797|Evans, Theophilus]]
{{eginyn Cymry}}
 
[[en:Theophilus Evans]]