Llyfrau'r Dryw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: Ardddull a manion sillafu, replaced: yn reolwr → yn rheolwr using AWB
Llinell 5:
Parhaodd Llyfrau'r Dryw fel tŷ cyhoeddi ar ôl i'r gyfres clawr papur ddod i ben yn [[1952]]. Mae cyhoeddiadau Llyfrau'r Dryw yn y [[1950au]] a'r [[1960au]] yn cynnwys y gyfres uchelgeisiol ''[[Crwydro Cymru]]'', sy'n cynnwys cyfrolau o safon llenyddol uchel am siroedd a broydd Cymru, a'r cylchgronau arloesol ''[[Barn (cylchgrawn)|Barn]]'', yn Gymraeg, a ''[[Poetry Wales]]'' yn Saesneg. Lleihaodd cynnyrch y wasg yn y [[1970au]] a daeth yn rhan o Gwmni [[Christopher Davies]] ([[Abertawe]]), mab [[Alun Talfan Davies]] sef ochr gyhoeddi Saesneg y wasg.
 
Roedd argraffdy'r cwmni wedi ei sefydlu yn [[Llandybie]]. Daeth [[Emlyn Evans (Llyfrau'r Dryw)|Emlyn Evans]] yn rheolwr ar y wasg yn 1957 ond fe ymddiswyddodd adeg anghydfod cyhoeddi [[Ieuenctid Yw 'Mhechod|Ienctid yw 'Mhechod]] gan [[John Rowlands (awdur)|John Rowlands]]. Dilynwyd ef gan [[Dennis Rees]] a dilynwyd yntau ddechrau'r 70au gan John Phillips.
 
==Cyfres ''Llyfrau'r Dryw''==