Parafeddyg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwallau iaith
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 14:
Mae cysylltiad wedi bod rhwng parafeddygaeth a gwrthdaro milwrol dros y blynyddoedd. Mae'r cofnod cyntaf o broses ffurfiol o ddelio gyda phobl sydd wedi eu hanafu yn dyddio'n ôl i Lengoedd Ymerodraeth Rhufain, lle roedd gan y Canwriaid hŷn, nad oedd yn gallu ymladd bellach, gyfrifoldeb i drefnu symyd y rhai oedd wedi eu anafu o faes y gad a gofalu amdanynt. Er nad oedd yr unigolion rhain yn feddygon, mae'n debyg eu bônt ymhlith y [[llawfeddyg|llawfeddygon]] cynharaf, gan bwytho anafiadau, a chyflawni trychiadau, ond roedd hyn yn ôl yr angen ac nid oeddent yn derbyn hyfforddiant ffurffiol, hyd y gwyddom. Parhaodd y drefn hon drwy gydol y [[Croesgadau]], gyda Marchogion ''Hospitallers'' yn [[Urdd Sant Ioan o Jeriwsalem]], sydd yn adnabyddus hyd heddiw fel [[Ambiwlans Sant Ioan]] neu yn ([[Saesneg]] fel ''St. John Ambulance''), gan barhau i lewnwi rôl tebyg mewn digwyddiadau cyhoeddus.
 
Crewyd y [[cerbyd]] cyntaf a ddylunwyd yn benodol fel ambiwlans yn ystod [[Rhyfel Napoleon]], a galwyd hi yn ''ambulance volante'' yn Ffrangeg. Crewyd hon gan Brif Lawfeddyg Napoleon sef y Barwn [[Dominique Jean Larrey]]. Bwriad y ddyfais a arferid ei thynnu gan geffyl, oedd i gludo cleifion at y llawfeddygon, a oedd yn aros y tu cefn i faes y gad, yn gyflym. Os oeddent yn goroesi'r daith gyda'u hanafiadau, byddent yn derbyn y lefel o sgiliau llawdrniaeth a oedd yn bodoli yn y 19eg ganrif cynnar, felly roedd eu hunllef ar ddechrau! Nid oedd y cerbydau'n gyffredin, ac ni roddwyd blaenoriath i driniaeth y rhai a oedd wedi eu hanafu; nid oedd yn anghyffredin i gerbydau fel y rhain gael y swydd o gludo arfau rhyfel hefyd i flaen y gad, cyn cludo'r cleifion yn ôl. Ni newidodd ddyluniad syml y cerbydau hyn dorosdros y ganrif wedyn.
 
Er fod cymunedau wedi cael eu trefnu i ddelio gyda rhai a oedd yn sâl neu'n marw cyn belled yn ôl a'r [[plâ]] yn Llundain (1598, 1665), dim ond trefniadau dros dro oedd rhain. Ond daeth y trefnadau hyn yn fwy ffurfiol a parhaol drost amser. Yn ystod [[Rhyfel Cartref America]], dyfeisiodd [[Jonathan Letterman]] system o orsafoedd cymorth cyntaf ar flaen y gad, ar lefel catrawd, lle sefydlwyd egwyddorion [[brysbennu]] am y tro cyntaf. Roedd byddin yr Unol Daleithiau wedi troi oddiwrth yr hen arfer o ond rhoi triniaeth aneffeithlon i gleifion, yn rannol oherwydd mabwysiadu technoleg newydd yr [[arf tân]], megis [[reiffl]] [[llwytho bôn dryll]] a systemau [[pelen Minié]]. Gwasanaethodd Letterman, a oedd yn uwchgapten, fel cyfarwyddwr meddygol Byddin Potomac. Sefydlodd [[ysbyty maes]] symudol a gafodd eu lleoli ym mhencadlys yr adrannoedd a'r corffluoedd. Cysylltwyd â pob pencadlys gan gorfflu ambiwlans effeithlon, a sefydlwyd gan Letterman ym mis Awst 1862, odan reolaeth staff meddygol yn hytrach na'r [[Adran Swyddog Cyflenwi]]. Trefnodd Letterman hefyd system effeithlon ar gyfer dosbarthu cyflenwadau meddygol. Mabwysiadwyd ei system ef gan fyddinoedd eraill yr Undeb, ac ym mhen hir a hwyr sefydlwyyd yn swyddogol fel [[dull gweithredu meddygol]] holl fyddinoedd yr Unol Daleithiau mewn [[Deddf Cyngres]] ym Mawrth 1864. Yn dilyn Rhyfel Cartref America, dechreuodd hen lawiau ddefnyddio beth oeddent wedi ei ddysgu ar y maes, yn eu cymunedau, gan greu timau auchub bywyd a chorffluoedd ambiwlans. Ni ddigwyddodd y trosiad yma o'r defnydd milwrol i'r gymuned yn yr un modd ym mhobman; ym Mhrydain, gweithredwyd yr ambiwlans ar gyfer sifiliaid gan yr ysbyty lleol neu'r heddlu, tra mewn rhai ardaloedd o Ganada, roedd yn gyffredin i'r trefnwr angladdau lleol (a oedd yn berchen ar yr unig gludiant yn y dref, lle gall y claf orwedd i lawr ynddi) weithredu'r gwasanaeth ambiwland yn ogystal a'r siop dodrefn lleol (gan adeiladu a gwerthu eirch fel eilbeth). Mewn canolfanau mwy o faint, mewn amryw o wledydd, rodd y cyfrifoldeb yn disgyn i'r Adran Iechyd, yr heddlu neu'r gwasnaeth tân lleol, neu gyfuniad o'r sawl a restrwyd uchod. Unwaith eto, dilynodd y system ar gyfer sifiliaid arweiniaeth y system filwrol; er y bu llond llaw o ambiwlansiau modur yn bodoli cyn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] (1914-1918), ar faes y gad y profwyd y cysyniad hwn o ambiwlansiau modur, ac yn dilyn y rhyfel, ymledaenodd bodolaeth ambiwlansiau modur yn gyflym iawn mewn systemau sifiliaid.
 
==Cyfeiriadau==