Parafeddyg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Lleihawyd o 1 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
symud y lluniau er mwyn tacluso
(ehangu)
B (symud y lluniau er mwyn tacluso)
[[Delwedd:Star of life2.svg|bawd|dde|150px180px|Seren Bywyd, symbol byd-eang Gwasanaeth Iechyd Argyfwng.]]
[[Delwedd:Garda victim.jpg|bawd|dde|300px|Dau barafeddyg yng Ngogledd Iwerddon yn cludo person newydd ei anafu i'r ambiwlans.]]
 
Gweithiwr [[meddygaeth|meddygol]] proffesiynol yw '''parafeddyg''', fel arfer bydd yn aelod o'r [[Gwasanaeth Iechyd Argyfwng]], sy'n cyflenwi gwasanaeth argyfwng safon uwch [[cyn-ysbyty]], gofal [[argyfwng meddygol|meddygol]] a [[trawma corfforol|trawma]]. Mae parafeddyg yn cyflenwi triniaeth ac ymyriad argyfwng ar-safle, sefydlu cleifion er mwyn achub bywyd ac, pan fydd yn briodol, i gludo cleifion i ysbyty ar gyfer triniaeth pellach.<ref>[http://www.healthcare.ac.uk/careers/paramedic-science/ Careers: Paramedic science - Faculty of Health and Social Care Sciences, Kingston University London and St George's, University of London]</ref>
 
Daw'r gair paramedic o ddau air 'para' sy'n golygu 'ategol' (hynny yw yn ategol i'r ddarpariaeth arferol: meddygon a nyrsus mewn ysbyty), a [[meddyg]].
 
 
==Hanes parafeddygaeth==
[[Delwedd:Garda victim.jpg|bawd|dde|300px250px|Dau barafeddyg yng Ngogledd Iwerddon yn cludo person newydd ei anafu i'r ambiwlans.]]
Mae cysylltiad wedi bod rhwng parafeddygaeth a gwrthdaro milwrol dros y blynyddoedd. Mae'r cofnod cyntaf o broses ffurfiol o ddelio gyda phobl sydd wedi eu hanafu yn dyddio'n ôl i Lengoedd Ymerodraeth Rhufain, lle roedd gan y Canwriaid hŷn, nad oedd yn gallu ymladd bellach, gyfrifoldeb i drefnu symyd y rhai oedd wedi eu anafu o faes y gad a gofalu amdanynt. Er nad oedd yr unigolion rhain yn feddygon, mae'n debyg eu bônt ymhlith y [[llawfeddyg|llawfeddygon]] cynharaf, gan bwytho anafiadau, a chyflawni trychiadau, ond roedd hyn yn ôl yr angen ac nid oeddent yn derbyn hyfforddiant ffurffiol, hyd y gwyddom. Parhaodd y drefn hon drwy gydol y [[Croesgadau]], gyda Marchogion ''Hospitallers'' yn [[Urdd Sant Ioan o Jeriwsalem]], sydd yn adnabyddus hyd heddiw fel [[Ambiwlans Sant Ioan]] neu yn ([[Saesneg]] fel ''St. John Ambulance''), gan barhau i lewnwi rôl tebyg mewn digwyddiadau cyhoeddus.
 
20,670

golygiad