Menter Iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Corff neu gyfundrefn seiliedig ar y gymuned sy'n gweithio i godi proffeil yr iaith [[Gymraeg]] o fewn bro leol yw '''Menter Iaith'''. Mae Mentrau Iaith yn cydweithio gydag unigolion, cyrff a busnesau lleol i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith yn y fro. Mae pob Menter Iaith yn derbyn grant sylfaenol gan [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg]] ynghyd â chefnogaeth ariannol gan gyrff eraill, e.e. awdurdodau lleol.
 
Y Fenter Iaith gyntaf i gael ei sefydlu oedd [[Menter Cwm Gwendraeth]] yn ardal [[Cwm Gwendraeth]], [[Sir Gaerfyrddin]], yn 1991. Fel rheol, mae Menter Iaith yn gweithredu o fewn ardal a ddiffinir gan yr [[Siroedd Cymru|awdurdod lleol]], ac eithrio yn achos Sir Gaerfyrddin a [[Powys]] lle ceir nifer o Fentrau Iaith llai sy'n gweithio ar lefel mwy lleol, a [[Chasnewydd|Casnewydd]], [[Blaenau Gwent]], [[Torfaen]], [[Sir Fynwy]] a [[Gwynedd]], sydd heb Fentrau Iaith ar hyn o bryd. Yng Nghasnewydd ceir partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol a Bwrdd yr Iaith a elwir 'Cymraeg Casnewydd', sy'n gweithredu yn yr un modd â Menter Iaith. Yn ystod yr haf 2007, cynhalwyd cyfres o gyfarfodydd ym Mlaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy gyda'r bwriad o greu Menter Iaith unigol i wasanaethu'r ardal gyfan; arweiniodd hynny at sefydlu pwyllgor sydd am geisio am gael ei ariannu gan y Bwrdd Iaith a ffynonellau eraill.
 
Cydlynir gwaith y Mentrau Iaith gan 'Mentrau Iaith Cymru', corff ymbarél sy'n cynnig platfform cenedlaethol i'r Mentrau lleol rannu gwybodaeth a syniadau.
Llinell 27:
* Menter Caerdydd - ([[Caerdydd]])
* Menter Iaith Bro Morgannwg - ([[Bro Morgannwg]])
* ''Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen, a Mynwy'' - ([[Blaenau Gwent]])
 
==Dolenni allanol==
* [http://www.mentrau-iaith.com/cymraeg/mictaflen.php Mentrau Iaith Cymru]
* [http://cymraegcasnewydd.com/cymraeg/?page_id=2 Cymraeg Casnewydd]
* [http://www.menterbgtm.org/ ''Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen, a Mynwy'']
 
 
[[Category:Mentrau Iaith| ]]