Walter Davies (Gwallter Mechain): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 7:
 
==Gwaith llenyddol==
Yn ei ieuenctid ymddiddorai Gwallter Mechain yng ngwaith y beirdd gwlad traddodiadol yn ei fro a chyfansoddodd sawl [[carol plygain]] yn y dull traddodiadol. Cyfansoddodd nifer o gerddi a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol ar ôl ei farwolaeth. Roedd ganddo feistrolaeth dda ar ffurfiau barddonol ond braidd yn sych y mae llawer o'i gerddi mawr i ddarllenwyr heddiw, ond mae rhai o'i [[englyn]]ion yn ffraeth. Enillodd sawl tlws eisteddfodol, yn cynnwys y rhai a enillodd yn [[eisteddfodau]] a drefnwyd gan y [[Gwyneddigion]] yn [[Y Bala]] ([[Eisteddfod Y Bala, 1789]]) a [[Llanelwy]] ([[Eisteddfod Llanelwy, 1790]]), ond roedd nifer o'i gyd-feirdd yn amau twyll oherwydd gohebiaeth gyfrinachol rhwng Gwallter ac [[Owain Myfyr]] (profwyd hyn yn wir yn ddiweddarach).
 
Mae un o'i gerddi, 'Cywydd y Cynhaeaf Gwlyb, 1816', o weth hanesyddol fel disgrifiad o effaith haf gwlyb [[1816]], a achoswyd gan ffrwydrad [[Mynydd Tambora]] yn Indonesia yn 1815, ar amaethyddiaeth Cymru.