Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tinitws"

Ychwanegwyd 20 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
 
== Symptomau cyffredin ==
Er bod tinitws yn cael ei alw'n Gymraeg a'i disgrifio mewn ieithoedd eraill yn ''canu yn y glust'' gall y sawl sy'n byw efo'r cyflwr clywed sawl sŵn, gan gynnwys sïo, grwnian, hymian, mwmian, crensian, llifanu, sisiad, hisian, chwythu a chwibanu. Bydd rhai pobl yn clywed seiniau sy'n debyg i gerddoriaeth neu ganu, ac mae eraill yn clywed synau sy'n curo mewn amser gyda'u [[Pwls (meddygol)|pwls]] (tinitws trawiadol); bydd eraill yn clywed lleisiau aneglur. Gallai'r sŵn bod yn feddal neu'n uchel, a gall y sain bod yn uchel neu'n isel. Bydd rhai pobl yn clywed y sŵn mewn un glust yn unig, bydd eraill yn ei glywed yn y naill glust a'r llall ar wahanol adegau ac eraill eto yn ei glywed yn y ddwy glust ar yr un pryd<ref>[https://www.nidcd.nih.gov/health/tinnitus National Institute on Deafness and Other Communication Disorders: Tinnitus] adalwyd 13 Ionawr 2018</ref>.
 
Yn anaml bydd tinitws yn symptom o gyflwr gwael difrifol. Yn y rhan fwyaf o bobl mae'n symptom sy'n para am ddim ond ychydig o amser ar y tro ac sy'n dŵad a mynd. Ond mewn rhai cleifion gall bod yn barhaus gan gael effaith andwyol ar sylwedd bywyd pobl. Gall achosion difrifol fod yn ofidus iawn, gan effeithio ar y gallu i ganolbwyntio, ac yn achosi problemau megis [[anhunedd]] ac [[iselder ysbryd]].