Sweyn I, brenin Denmarc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ychwanegwyd 349 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 200px|bawd|Sweyn Farf Fforchog Brenin Denmarc, Lloegr a rhannau o Norwy oedd '''Sweyn I, brenin Denmarc''' (tua 960 - 3 Chwefror 1014). ...
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Sweyn.jpg|200px|bawd|Sweyn Farf Fforchog]]
Brenin [[Denmarc]], [[Lloegr]] a rhannau o [[Norwy]] oedd '''Sweyn I, brenin Denmarc''' (tua [[960]] - [[3 Chwefror]] [[1014]]). Cyfeirir ato wrth sawl enw, yn cynnwys '''Sweyn Farf Fforchog''' (''Sweyn Forkbeard''), '''Sweyn Ddaniad''' (ffynonellau Saesneg), hefyd Svein, Svend, Swegen a Tuck ([[Hen Norseg]]: ''Sveinn Tjúguskegg'', [[Norwyeg]]: ''Svein Tjugeskjegg'', [[Swedeg]]: ''Sven Tveskägg''; [[Daneg]]: ''Svend Tveskæg'', o ''Tjugeskæg'' neu ''Tyvskæg''). Roedd yn arweinydd [[Viking]] [[Llychlyn]]aidd ac yn dad i'r brenin [[Canute, brenin Lloegr|Canute]]. Pan fu farw ei dad [[Harald Lasdant]] ar ddiwedd 986 neu ddechrau 987, daeth yn frenin Denmarc; yn 1000, mewn cynghrair â'r Trondejarl, [[Eric o Lade]], daeth yn rheolwr ar y rhan fwyaf o Norwy hefyd. Ar ôl cyfnod hir o ymgyrchu yn erbyn y [[Saeson]] am feddiant o'r wlad, ac yn fuan cyn ei farwolaeth, yn 1013 goresgynodd [[Teyrnas Lloegr|deyrnas Lloegr]]. Ym mlynyddoedd olaf ei oes, ef oedd teyrn Danaidd ymerodraeth a ymestynnai dros Fôr y Gogledd, ac a etifeddywd gan ei fab Canute a'i ehangodd i fod yn un o ymerodraethau mwyaf gogledd Ewrop.
 
Ymosododd Sweyn ar Loegr sawl gwaith yn y 1000au cyn llwyddo i oresgyn y deyrnas honno. Un o'i resymau dros hynny oedd dial llofruddiaeth ei chwaer Gunhilde a nifer o [[Daniaid|Ddaniaid]] eraill gan dorf yn [[Rhydychen]] yn y flwyddyn 1002, fel rhan o ymgyrch glanhau ethnig a elwir yn [[Cyflafan Gŵyl Sant Bricius|Gyflafan Gŵyl Sant Bricius]].
 
[[Categori:Brenhinoedd a breninesau Denmarc]]