Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Capel Celyn"

Ychwanegwyd 1,042 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
Gerallt Lloyd Owen
(yn dileu brawddeg amhendant am "fewnlifiad Saesnig" - angen enghreifftiau penodol er mwyn ei chadw)
(Gerallt Lloyd Owen)
Pentref yng [[Gwynedd|Ngwynedd]], [[Cymru]] a gafodd ei foddi ym [[1965]] i greu [[cronfa ddŵr]] ([[Llyn Celyn]]) ar gyfer trigolion [[Lerpwl]], [[Lloegr]] oedd '''Capel Celyn'''. Cyn ei foddi yr oedd yno gymdeithas ddiwylliedig [[Gymraeg]], gan gynnwys capel, ysgol, swyddfa bost a [[Ffermydd a foddwyd yng nghapel Celyn|deuddeg o ffermydd]] a thir a oedd yn perthyn i bedair fferm arall; rhyw 800 erw i gyd a 48 o drigolion.
 
==Hanes y boddi==
Ar 20 Rhagfyr 1955, penderfynodd Corfforaeth Dinas Lerpwl greu argae ddŵr yng Nghwm [[Tryweryn]] i gyflawni dŵr i drigolion Lerpwl. Roedd y gorfforaeth eisoes wedi gwneud hyn yn y 1880au yn nyffryn [[Llyn Efyrnwy|Efyrnwy]]. Cyflwynodd fesur seneddol (heb drafod gyda'r un awdurdod yng Nghymru) ar 1 Awst 1957. Yn y bleidlais, ni phleidleisiodd yr un aelod seneddol o Gymru o'i blaid.
 
Cafwyd tair ymgais i ddifrodi offer oedd yn cael eu defnyddio i adeiladu'r argae, ym 1962 ac ym 1963, a charcharwyd [[Emyr Llewelyn]], John Albert Jones ac [[Owain Williams]].
 
==Cofio==
Canodd y beirdd llawer am foddi Cwm Tryweryn ac yn eu plith, [[Dafydd Iwan]]:
 
:Yn gofgolofn i'n llyfdra ni;
:Dyw'r werin ddim digon o ddynion, bois,
:I fyny ein rhyddid ni.''
 
I lawer o Gymry gwladgarol daeth boddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn yn symbol o'r bygythiad i barhad yr [[iaith Gymraeg]] ei hun fel iaith gymunedol fyw, yn enwedig yn y 1980au wrth i'r nifer o bentrefi Cymraeg eu hiaith fynd yn sylweddol lai diolch i ymfudo i gael gwaith gan Gymry ifainc a mewnfudo gan bobl o'r tu allan i Gymru, gan amlaf yn Saeson di-Gymraeg. Mynegir hyn gan y prifardd [[Gerallt Lloyd Owen]] yn ei gerdd adnabyddus ''Tryweryn'', a gyhoeddwyd yn y gyfrol ''Cilmeri a cherddi eraill'' yn 1991 ond a gyfansoddwyd yn y 1980au. Dyma'r pennill agoriadol:
 
:Nid oes inni le i ddianc,
:Nid un '''Tryweryn''' ein tranc,
:Nid un cwm ond ein cymoedd,
:O blwyf i blwyf heb na bloedd
:Na ffws y troir yn ffosil
:Nid un lle ond ein holl hil.<ref>Gerallt Lloyd Owen, ''Cilmeri a cherddi eraill'' (Gwasg Gwynedd, 1991), tud. 48.</ref>
 
Cyfarwydd hefyd yw'r cwpled cofiadwy o'r un gerdd,
 
:Fesul tŷ nid fesul ton
:Y daw'r môr dros dir Meirion.<ref>''Cilmeri'', tud. 48.</ref>
 
==Llyfryddiaeth==
*Watcyn L. Jones, ''Cofio Capel Celyn'' ([[Y Lolfa]], 2008)
*Owain Williams, ''Cysgod Tryweryn'' (1979; argraffiad newydd, [[Gwasg Carreg Gwalch]], 1995)
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Dolenni allanol==