Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
'''Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg''' ([[Basgeg]]: '''''Euzko Alderdi Jeltzalea'''' (EAJ), [[Sbaeneg]]: '''''Partido Nacionalista Vasco'''' (PNV) yw'r blaid genedlaethol Fasgaidd fwyaf, a'r blaid fwyaf yng Ngwlad y Basg. Ei henw swyddogol yn Sbaen yw '''Euzko Alderdi Jeltzalea-Partido Nacionalista Vasco''' ('''EAJ-PNV'''), ac yn [[Ffrainc]] '''Euzko Alderdi Jeltzalea- Parti Nationaliste Basque''' ('''EAJ-PNB''').
 
Sefydlwyd y blaid yn [[1895]] gan [[Sabino Arana|Sabino Arana Goiri]]; hi yw'r ail-hynaf o bleidiaaubleidiau gwleidyddol Sbaen ar ôl y [[PSOE]]. Mae'r enw Basgeg, "Euzko Alderdi Jeltzalea", yn golygu "Plaid Fasgaidd cefnogwyr y J.E.L.", lle mae "J.E.L." yn dod o ''Jaungoikoa Eta Lagizarrak'' ("Duw a'r Hen Ddeddfau"), yn cyfeirio ar ddechreuadau'r blaid fel plaid [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] i amddiffyn traddodiadau Basgaidd.
 
Heddiw mae'n ei diffinio ei hun fel plaid Fasgaidd ddemocrataidd ac anenwadol, yn y canol neu canol-chwith ar y sbectrwm chwith-de, ac yn anelu at annibynniaeth i [[Gwlad y Basg|Wlad y Basg]]. Mae'n ymgyrchu nid yn unig yng [[Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg|Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg]] ond yn [[Navarra]] ac yn y tiriogaethau Basgaidd yn [[Iparralde|Ffrainc]]. Mae ganddi 22 o'r 75 sedd yn y senedd Fasgaidd.