Diwygiad 1904–1905: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Diwygiad [[1904]]-[[1905]]''' oedd y diwygiad mawr Cristnogol olaf i genedl y Cymry ei weld. Mi fyddai rhai yn dadlau fod rhai adfywiadau lleol wedi digwydd ers hynny; er enghraifft bendith Cross Hands yn y 1950au a'r fendith ymysg myfyrwyr Cymraeg yn yr 1970au - ond nid oes dim byd wedi dod yn agos i'r gwynt a chwythodd drwy Gymru ganrif yn ol.
 
 
== Y Cefndir ==
 
 
Yn 1859 y gwelwyd y diwygiad diwethaf cyn 1904-1905, rhwng 1859 ac 1904 bu cryn newid ym myd Cristnogaeth y Cymry. Er 1850 roedd Cymru yn colli mwy a mwy o'i draddodiad hanesyddol Calfinaidd. Roedd hi'n oes pan ddaeth i weinidogaeth y pregethwyr mawr megis Christmas Evans (1838), John Elias (1841) a Henry Rees (1869). Wedi'r i'r to yma o bregethwyr ymadael, ar y cyfan, fe welwyd pregethu Cymraeg yn colli ei gywirdeb Beiblaidd ac fe welwyd symudiad tuag at bregethu poblogaidd a llenyddol.
Llinell 13 ⟶ 11:
== Palmantu'r ffordd i'r Diwygiad ==
 
Hyd yma mae'n bosib fy mod wedi rhoi portread rhy dywyll o Gymru rhwng 1859 a 1904. Fe fu Duw'n gweithio mewn adfywiadau lleol ar amseroedd gwahanol; bu adfywiadau lleol yng [[Cwmafan|Nghwmafan]] (1866), [[Rhondda]] (1879), [[Caerfyrddin]] a [[Blaenau Ffestiniog]] (1887), [[Dowlais]] (1890) a'r [[Bontnewydd]] (1892). Fe ddigwyddodd yr adfywiadau yma wedi i Gristnogion yn yr ardaloedd weddïo’n ddwys. Dyma batrwm a welwyd cyn i ddiwygiad 1904-1905 dorri allan; er enghraifft drwy 1902-1903 fe gyfarfu holl arweinwyr Bedyddiedig Cwm Rhondda, 35 ohonynt, yn rheolaidd i weddïo am fendith. Yng nghapel Hebron, Ton, fe fu cyfarfodydd gweddi hyd 1904 ac wedi iddyn nhw glywed fod Duw ar waith yn Hebron, Dowlais dwysau gwnaeth y gweddïo yn Hebron, Ton, yn y gobaith y byddai'r fendith yn dod atynt hwythau hefyd.
 
 
== Y Diwygiad yn dechrau ==
 
Mae'n anodd dweud yn union ble a phryd y dechreuodd y diwygiad, ond efallai y gellid cyfeirio at y llefydd canlynol fel ardaloedd o bwys.
 
 
=== Ceinewydd a Blaenannerch ===
 
 
Arweinydd blaenllaw yn y diwygiad oedd gweinidog Methodistaidd Ceinewydd, [[Joseph Jenkins]]. Yn ystod 1903 roedd yn awchu am adfywiad ysbrydol yng Nghymru. Mewn gweddi daeth rhyw fendith arno a wrth bregethu yn Chwefror 1904 daeth i sylweddoli mae'r gwynt tu ôl i'w bregethu oedd gwynt y diwygiad. Fe fywiogodd bywyd ei eglwys ac fe gynyddodd y niferoedd, teithiodd ef ac aelodau o'i eglwys i dystiolaethu mewn pentrefi a threfi cyfagos.
 
Erbyn Medi 1904 fe drefnwyd cynhadledd ym Mlaenannerch. Fe adroddwyd fod bendith aruthrol wedi bod yn y gynhadledd ac fe ledaenwyd y newydd drwy'r ardal a thu hwnt. Fe adroddwyd yr hanes yn y South Wales Daily News, adroddasant fod y 'trydydd diwygiad mawr' ar droed trwy Gymru!
 
 
=== Rhydaman ===
 
 
Ar ddechrau Tachwedd 1904 fe wahoddwyd Joseph Jenkins fel pregethwr gwadd i gapel Bethani, [[Rhydaman]], eglwys [[Nantlais Williams]]. Fe drefnwyd fod Joseph Jenkins i ddod cyn fod newydd am y diwygiad wedi cyrraedd Rhydaman, serch hynny gan fod Joseph Jenkins yn dod teimlodd Nantlais y byddai hi'n briodol trefnu cyfarfod arbennig ar brynhawn Sul i Joseph Jenkins adrodd yr hanes. Mae'n debyg i Nantlais ofidio na fyddai diddordeb ac na fyddai neb yn dod i'r cyfarfod arbennig yma, serch hynny pan gyrhaeddodd Nantlais prin yr ydoedd yn medru mynd i mewn i glywed Joseph Jenkins.
 
Ymhell cyn clywed son am ddiwygiad roedd hi wedi ei threfnu fod Joseph Jenkins yn siarad ar y Nos Lun cyn iddo ddychwelyd i Geinewydd. Fe lenwyd y capel i'r ymylon unwaith yn rhagor ar y nos Lun, ond o bosib mae'r digwyddiad mwyaf hynod y noson honno oedd i ŵr ddatgan o'r galori “Mi fydd cyfarfod arall yma nos yfory...”. Fe gynhaliwyd cyfarfod arall ar y nos Fawrth a barhaodd tan oriau man y bore; roedd y diwygiad wedi cyrraedd Rhydaman. Er bod Nantlais eisoes wedi ei ordeinio gan yr enwad, gwerth fyddai nodi na ddaeth Nantlais ei hun yn Gristion tan benwythnos ymweliad Joseph Jenkins a Rhydaman yn Nhachwedd 1904, daeth i gadwedigaeth ar y Nos Sadwrn, noswyl ymweliad Joseph Jenkins.
 
 
=== Gogledd Cymru ===
 
 
Yn Rhagfyr 1904 fe aeth Joseph Jenkins am daith bregethu tair mis i Ogledd Cymru. Bendithiwyd cyfarfydd yn [[Amlwch]], [[Llangefni]], [[Llannerchymedd]], [[Talysarn]], [[Llanllyfni]], [[Dinbych]], [[Llanrwst]], [[Dinorwig]], [[Disgwylfa]] ac ymysg myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Ond digwyddodd y fendith fwyaf ym Methesda, disgrifiodd un o arweinwyr eraill y diwygiad J.T Job gyfarfod yn Jerwsalem, Bethesda ar yr [[22 Rhagfyr|22ain o Ragfyr]] 1904 'yn gorwynt'. Bu gweddïo yna am awr cyn i Joseph Jenkins gyrraedd, ugain munud i mewn i'w bregeth fe ffrwydrodd y dorf fawr mewn gorfoledd; dynion yn gwaeddu emynau a phobl yn dawnsio rhwng y corau.
 
 
=== [[Evan Roberts]] a Chasllwchwr ===
 
Roedd Evan Roberts yn ddyn ifanc a ddylanwadwyd arno gan y storiâu oedd yn dod i Geinewydd a Blaenannerch. Fe deimlodd alwad i fynd i'r weinidogaeth ac fe aeth am ei hyfforddiant bugeiliol i Gastell Newydd Emlyn; wrth gwrs daeth i dde Ceredigion yn ystod cynnwrf mawr Blaenannerch. Fe ddaeth Seth Joshua, un o arweinwyr eraill y diwygiad, i'r ardal i gynnal cyfarfodydd, disgwyliai Evan Roberts ymlaen yn eiddgar. Yn ystod ail bregeth Seth Joshua ym Mlaenannerch fe syrthiodd Evan Roberts i'r llawr a gwaeddu allan “Plyg fi; plyg fi; plyg ni!”.
 
Wedi tri mis o hyfforddiant yng Nghastell Newydd Emlyn fe ddychwelodd Evan Roberts i Gasllwchwr i ddechrau ar ei weinidogaeth. Fe ddywedwyd iddo gael gweledigaethau uniongyrchol gan yr Ysbryd Glan; gweledigaethau penodol iawn megis y rhif 100,000 oedd yn cynrychioli yr eneidiau oedd Duw i'w ddefnyddio ef i'w hachub. Wrth i'r diwygiad fynd rhagddi daeth Evan Roberts yn fwyfwy dibynnol ar yr Ysbryd glan ac o ganlyniad roedd yn esgeuluso awdurdod a phwysigrwydd y Beibl. Serch hynny roedd ei weinidogaeth yn llwyddiannus, yn aml fe ddechreuodd gyfarfodydd wrth adrodd hanes yr hyn oedd yn digwydd yng Ngheinewydd a Blaenannerch yna fe heria'r dorf ynglŷn â'i chyflwr ysbrydol hwynt. Yn fuan fe ddeffrodd y dyrfa yng Nghasllwchwr, roedd y diwygiad wedi lledu yna, ac fe aeth cyfarfodydd ymlaen tan oriau man y bore. Wedi i'r tan gael ei gynau yng Nghasllwchwr fe aeth Evan Roberts ar daith drwy'r cymoedd er mwyn lledu'r diwygiad.
 
 
=== Y papurau newydd ===
 
 
Dyma oedd y diwygiad cyntaf i'r cyfryngau poblogaidd chwarae rôl. Roedd y ''[[Western Mail]]'' a'r ''[[South Wales Daily News]]'' wedi chwarae rhan allweddol yn lledaenu’r newyddion fod diwygiad yn y tir. Fe roddwyd sylw arbennig i Evan Roberts a'i waith gan y ''Western Mail''.
 
 
== Casgliadau ==
 
 
Credir fod oleuaf 100,000 o bobl wedi dod yn Gristnogion yn y diwygiad. Er gwaetha'r ffaith i fas sylweddol o bobl droi yn Gristnogion ni lwyddodd y diwygiad i atal dirywiad graddol Cristnogaeth yng Nghymru, megis ei atal rhyw ychydig dros dro y gwnaeth. Dywedir fod diffyg dyfnder i ddiwygiad 1904-1905, ac fe fethwyd a meithrin Cristnogion a ddaeth i ffydd yn y diwygiad yn effeithiol. Credir fod hyn o ganlyniad i ddiffyg pwyslais gan rai o'r arweinwyr ar ddysgeidiaeth Feiblaidd. Fe welwyd ôl-effaith y diwygiad yn hirach yn yr ardaloedd a oedd ag arweinydd oedd yn rhoi pwyslais ar awdurdod y Beibl ond diflannu’n sydyn gwnaeth yr ôl-effaith mewn ardaloedd oedd ag arweinwyr oedd yn rhoi gormod o bwyslais ar yr Ysbryd ar draul dysgeidiaeth Feiblaidd.
 
Mae effaith Cristnogaeth ar Gymru, gellid dadlau, yn fwy na dylanwad Marcsiaeth ar Rwsia. Roedd diwygiad 1904-1905 yn gorwynt fel y nododd J.T Job, ond nid oedd yn deiffŵn y diwygiad Methodistaidd wedi ei ail adrodd.
 
 
== Ffynonellau ==
 
 
*Evans, Eifion: “Diwygiad 04-05”: 2002
Llinell 75 ⟶ 56:
 
[[Category:Cristnogaeth]]
 
[[en:1904-1905 Welsh Revival]]