De Excidio Britanniae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B cat
B manion
Llinell 1:
Llyfr [[Lladin]] o waith y mynach Brythonaidd [[Gildas]] yw '''''De Excidio Britanniae''''' ("Ynghylch Dinistr Prydain"). Mae’r llyfr yn bregeth gyda thair rhan:
 
Yn y rhan gyntaf mae Gildas yn egluro ei reswm dros ysgrifennu’r llyfr a rhoi amlinelliad o hanes [[Prydain]] dan [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] ac wedi ymadawiad y llengoedd, hyd at gyfnod Gildas ei hun. Thema Gildas yw fod y [[Brythoniaid]] wedi colli rheolaeth ar Brydain i'r [[Sacsoniaid]] fel cosb Duw am eu pechodau. Yr unig un o arweinwyr y Brythoniaid y mae Gildas yn ei ganmol yw [[Emrys Wledig]], "Ambrosius Aurelianus". Dywed Gildas fod Emrys o deulu Rhufeinig, a'i fod wedi casglu lluoedd ynghyd i wrthwynebu'r Saeson, gan ennill buddugoliaethau yn eu herbyn.
 
Cyfeiria at [[Brwydr Mynydd Baddon|Frwydr Mynydd Baddon]], ond nid yw’n crbwyll enw arweinydd y Brythoniaid yn y frwydr hon. Nid yw’n crybwyll enw [[Arthur]], a gysylltir a brwydr Mynydd Baddon gan [[Nennius]] yn ddiweddarach. Wrth drafod Mynydd Baddon, mae Gildas i bob golwg yn dweud fod y frwydr wedi ei hymladd yr un flwyddyn ag y ganed ef ei hun, er fod y gwreiddiol [[Lladin]] yn anodd yn y frawddeg yma (''quique quadragesimus quartus (ut novi) orditur annus, mense iam uno emenso, qui et meae nativitatis est'').
 
Mae'r ail ran yn dechrau trwy ddweud ''Reges habet Britannia, sed tyrannos, iudices habet, sed impios'' ("Mae gan Brydain freninhoedd, ond gormeswyr ydynt; mae ganmddi farnwyr ond annuwiol ydynt …"). Aiff ymlaen i gondemnio pum teyrn wrth eu henwau: [[Constantinus]] o [[Dumnonia]], [[Aurelius Caninus]], [[Vortiporius]], teyrn y [[Demetae]] ([[Dyfed]]), [[Cuneglas|Cuneglasus]] a [[Maelgwn Gwynedd]] (Maglocunus ).
 
Yn y drydedd ran mae offeiriaid Prydain dan lach Gildas, ond nid yw’n enwi unigolion yn y rhan yma, nac yn rhoi llawer o fanylion.
 
Nid oes sicrwydd o ddyddiad y ''De Excidio'', ond gan ei fod yn condemnio Maelgwn Gwynedd fel teyrn oedd ar ei orsedd ar y pryd, rhaid ei fod yn dyddio o hanner cyntaf y [[6ed ganrif]]. Yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]'', bu Maelgwn farw yn [[547]].
 
Mae y ''De Excidio'' o bwysigrwydd mawr fel un o’r ychydig o weithiau i oroesi o’r cyfnod yma yn hanes Prydain, ond rhaid cofio nad hanesydd oedd Gildas. Mae'r hanesydd [[John Davies (hanesydd)|John Davies]] yn ''Hanes Cymru'' yn ei ddisgrifio fel "pregethwr crac" tra bod [[A. W. Wade-Evans]] yn cyfeirio at y ''De excidio'' fel y llyfr a fu'n gyfrifol am osod seiliau [[hanes Cymru]] "ar gors o gelwydd" am ganrifoedd maith. Defnyddiwyd y llyfr yn helaeth gan [[Beda]] yn ei hanes ef, ''[[Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum]]'', gan ddatblygu dadl Gildas yn y ''De Excidio'' fod y Brythoniaid wedi colli rheolaeth ar Brydain fel cosb Duw am eu pechodau.
 
Mae y'r ''De Excidio'' o bwysigrwydd mawr fel un o’r ychydig o weithiau i oroesi o’r cyfnod yma yn hanes Prydain, ond rhaid cofio nad hanesydd oedd Gildas. Mae'r hanesydd [[John Davies (hanesydd)|John Davies]] yn ''Hanes Cymru'' yn ei ddisgrifio fel "pregethwr crac" tra bod [[A. W. Wade-Evans]] yn cyfeirio at y ''De excidio'' fel y llyfr a fu'n gyfrifol am osod seiliau [[hanes Cymru]] "ar gors o gelwydd" am ganrifoedd maith. Defnyddiwyd y llyfr yn helaeth gan [[Beda]] yn ei hanes ef, ''[[Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum]]'', gan ddatblygu dadl Gildas yn y ''De Excidio'' fod y Brythoniaid wedi colli rheolaeth ar Brydain fel cosb Duw am eu pechodau.
 
==Argraffiadau a chyfieithiadau==
Cyhoeddwyd y De Excidio gyntaf gan [[Polydore Vergil]] yn [[1525]]., gydag argraffiad Newydd gan [[John Josseline]] yn [[1568]]. Argraffwyd y gwaith nifer o weithiau ym Mhrydain ac ar y cyfanfir ers hynny. Cyhoeddodd [[Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion]] argraffiad o’r testun a chyfeithiad Saesneg yn [[1899]] dan olygyddiaeth Hugh Williams, a’r un flwyddyn cyhoeddwyd cyfeithiad Cymraeg gan John Owen Jones yn ''O Lygad y Ffynnon''. Ceir cyfieithiad Cymraeg arall, gyda nodiadau, gan [[A. W. Wade-Evans]] (''Coll Prydain'', Gwasg y Brython, 1950).
 
==Gweler hefyd==
Cyhoeddwyd y De Excidio gyntaf gan [[Polydore Vergil]] yn [[1525]]., gydag argraffiad Newydd gan [[John Josseline]] yn [[1568]]. Argraffwyd y gwaith nifer o weithiau ym Mhrydain ac ar y cyfanfir ers hynny. Cyhoeddodd [[Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion]] argraffiad o’r testun a chyfeithiad Saesneg yn [[1899]] dan olygyddiaeth Hugh Williams, a’r un flwyddyn cyhoeddwyd cyfeithiad Cymraeg gan John Owen Jones yn ''O Lygad y Ffynnon''. Ceir cyfieithiad Cymraeg arall, gyda nodiadau, gan [[A. W. Wade-Evans]] (''Coll Prydain'', Gwasg y Brython, 1950).
* [[Brythoniaid]]
* [[Ynys Prydain]]
 
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:Hanes Prydain]]
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru]]
[[Categori:Llên Ladin Cymru]]
[[Categori:Llyfrau'r 6ed ganrif]]